Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Cartrefi Gofal

Gwasanaeth apwyntiad fideo yw Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i gynnig gwasanaethau gofal iechyd mewn ffordd ddiogel i weld cleifion trwy apwyntiad fideo, yn hytrach na'u gweld yn bersonol.

Cyflwynir y Gwasanaeth Ymgynghori Fideo trwy blatfform cyfathrebu o’r enw ‘Mynychu unrhyw le’ a bydd yn cael ei ddefnyddio gan feddygfeydd teulu, adrannau cleifion allanol ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill, gan ganiatáu i’ch preswylwyr gael mynediad at ymgynghoriadau meddygol o’r cartref heb fod angen teithio gan arbed amser ac adnoddau.

Rydym ni, yn Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, yn partneru gyda’r tîm cyflwyno i gefnogi Cartrefi Gofal yn benodol i sicrhau eich bod chi’n gallu defnyddio’r gwasanaeth newydd hwn.

Dalier sylw – Wrth gofrestru gyda’r gweminar hwn, bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i storio ar ein bas data. Er mwyn darllen ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer mynychwyr ein sesiynau, darllenwch y canlynol http://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/hysbysiad-preifatrwydd/

Cwblhewch y ffurflen isod i gael mynediad recordiad o’n hyfforddiant.

A oes arnoch angen gweithgareddau Digidol ysbrydoledig ar gyfer y bobl yr ydych yn eu cefnogi?

Rydym wedi datblygu sesiwn hyfforddiant sy’n 2 awr o hyd, yn benodol ar gyfer cartrefi gofal. Mae’r sesiwn hon yn agored i holl staff cartrefi gofal a bydd yn arbennig o fuddiol i Gydgysylltwyr Gweithgareddau. Bydd mynychu’r sesiwn yn rhoi llawer o syniadau, cyngor ac awgrymiadau ymarferol newydd i chi fel y gallwch chi ddangos i’ch preswylwyr y nifer o ffyrdd cyffrous y gellir defnyddio technoleg ddigidol. Byddwn yn ymdrin â 5 pwnc gwahanol sy’n cynnwys: Atgofion, Gemau a Chwisiau, Podlediadau, Seinyddion Clyfar, Cerddoriaeth a Chadw’n Egnïol / Bwyd Iach. Byddwch yn gallu rhannu eich profiadau a’ch syniadau â chartrefi eraill hefyd.

Dydd Mercher 30 Medi 2020 2yp

Cofrestrwch yma

Bydd y sesiwnau hon yn cael ei chynnal yn saesneg