Adroddiad cynnydd ar gynhwysiant digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus (Llywodraeth Cymru, Mawrth 2022)
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ers mis Rhagfyr 2020 i helpu mwy o bobl i ymgysylltu’n hyderus â thechnoleg ddigidol.
Bydd yr Adroddiad Cynnydd hwn yn amlinellu ein gwaith hyd yn hyn o ran bodloni’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn Rhagolwg Cynhwysiant Digidol i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Mae’r gwaith yn cynnwys enghreifftiau o ymyriadau i gyflawni’r polisi a’r rhaglen ym mhob un o’r 6 maes ffocws yn ein Rhagolwg, dros y 12 mis diwethaf ers ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020. Rydym hefyd yn disgrifio’r heriau a wynebir wrth ddatblygu rhai meysydd ffocws a sut rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o effaith allgáu digidol ar gymunedau yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cenhadaeth 2 o'n Strategaeth Ddigidol i Gymru, sef ein polisi cynhwysiant digidol a'n strategaeth bellach ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Adroddiad
Cydnabyddir bod cynhwysiant digidol yn her hollbwysig o ran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau. Drwy'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod y camau a nodwyd yng nghynllun cyflawni'r Strategaeth Ddigidol yn cael eu cymryd.
Addroddiad