Neidiwch i’r prif gynnwys

Clwstwr Meddygon Teulu Bae Abertawe yn defnyddio Fitbit i wella iechyd cleifion

Cynigiodd grŵp o Feddygon Teulu ym Mae Abertawe ddyfeisiau Fitbit i’w cleifion i’w helpu i fod yn fwy actif a gwella’u ffitrwydd. Ar ôl cael hyfforddiant a chymorth i fanteisio i’r eithaf ar y dechnoleg, sylwodd y cleifion ar fanteision iechyd o fewn dim.

Pam?

Mae Iechyd Bae Abertawe yn cynnwys wyth meddygfa yn cydweithio gyda phartneriaid o wasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol a bwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r clwstwr yn gwasanaethu dros 75,000 o bobl, gyda llawer yn oedrannus (22.5%). Mae’r clwstwr yn ceisio atal salwch a galluogi pobl i gadw’n iach ac yn annibynnol cyhyd â phosibl.

Cysylltodd y clwstwr â Cymunedau Digidol Cymru i holi sut gallai technoleg wella iechyd a lles cleifion.

Sut?

Darparodd Cymunedau Digidol Cymru nifer o ddyfeisiau Fitbit i’r clwstwr y gellid eu benthyg i grŵp bach o gleifion. Hefyd, lluniodd gwrs iechyd digidol pum wythnos y gellid ei ddarparu ar gyfer pobl a oedd wedi cael cynnig Fitbit.

Nododd y meddygon teulu chwe unigolyn a fyddai’n elwa ar ffordd o fyw mwy actif yn eu tyb nhw. Roedd gan yr holl gyfranogwyr ddiabetes math 2; roedd hanner ohonynt dros 65 oed. Cafodd bob un Fitbit a buont yn cymryd rhan yn y cwrs iechyd digidol, a ddarparwyd gan dîm Addysg Oedolion Cyngor Abertawe, i ddangos iddynt sut i ddefnyddio’r Fitbit ynghyd ag adnoddau ac apiau iechyd ar-lein amrywiol eraill. Clywodd y cyfranogwyr hefyd am y Gwasanaeth Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol ac fe’i hanogwyd i gydweithio â’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Effaith

Roedd y chwe chyfranogwr o’r farn eu bod wedi elwa ar y cwrs a’i fod yn ddefnyddiol dros ben. Dywedodd pump y byddent yn defnyddio’r dechnoleg gysylltiedig ag iechyd ac yn ystyried defnyddio’r apiau iechyd a lles, technoleg y gellir ei gwisgo a gwefannau iechyd yn y dyfodol. Aeth hanner y cyfranogwyr ymlaen i brynu eu dyfeisiau tracio ffitrwydd eu hunain a dywedodd y rhan fwyaf o’r grŵp bod defnyddio’r Fitbit wedi’u hannog i ymarfer mwy. Credai’r cyfranogwyr fod y cwrs iechyd digidol hefyd wedi’u helpu i ddefnyddio technolegau mewn gwahanol ffyrdd.