Mae potensial sylweddol i gynhwysiant digidol wella iechyd a lles pobl hŷn a phobl â chyflwr iechyd hirdymor yng Nghymru. Mae’r twf cyflym mewn technolegau digidol yn dod â chyfleoedd anhygoel i bobl ddod yn bartneriaid mwy gweithgar yn eu gofal eu hunain. Mae perygl difrifol y bydd pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu gadael ar ôl.
Cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal
Pam fod cynhwysiant digidol yn bwysig i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae gan y GIG yng Nghymru weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal digidol yng Nghymru – mynediad ar-lein at gofnodion, archebion apwyntiadau a cheisiadau am bresgripsiwn, apiau gofal iechyd, nwyddau gwisgadwy, hunanreoli ar-lein ac ymgynghoriadau fideo. Mae rhaglenni cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau i’r cyhoedd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â mentrau sy’n cael eu rhoi ar waith gan fyrddau iechyd unigol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai’r unig ffordd o gyflawni potensial trawsnewidiol gwasanaethau iechyd digidol i wella mynediad, ansawdd ac effeithlonrwydd gofal iechyd yw trwy arferion cynhwysol sy’n sicrhau y gall pawb elwa, waeth beth fo’u llythrennedd digidol neu eu cefndir.
Y bobl sydd â’r angen mwyaf am iechyd a gofal (gan gynnwys pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau ac anableddau hirdymor) sydd leiaf tebygol o fod ar-lein.
- Dim ond 87% o bobl yng Nghymru sydd â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 93% o’r rhai heb gyflwr o’r fath.
- Dim ond 87% o bobl 65–74 oed sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 99% o bobl 16–44 oed.
- Mae llai o bobl yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd nag yng ngweddill y DU.
Achos busnes dros gynhwysiant digidol ym maes iechyd
Mae’r Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2023–2028) gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd:
- Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael mynediad at wasanaethau iechyd digidol ac elwa arnynt.
- Cynnwys pobl yn y gwaith o ddylunio a datblygu gwasanaethau digidol i ddiwallu eu hanghenion penodol.
- Mynd i’r afael â heriau allgáu digidol, megis diffyg mynediad at dechnoleg, sgiliau, neu hyder.
Mae’r achos busnes dros drawsnewid gwasanaethau’n ddigidol yn seiliedig ar y ffaith bod gan bobl y sgiliau digidol, yr hyder a’r mynediad i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.
Disgwylir i’r rhai sydd â sgiliau digidol roi llai o bwysau ar y GIG, drwy leihau nifer yr apwyntiadau meddyg teulu y maent yn eu mynychu. Mae ymchwil gan Cebr yn dangos (yn geidwadol) y bydd y GIG, rhwng 2023 a 2032, yn arbed £20 miliwn ar gyfer pob grŵp o 508,000 o bobl sy’n cael eu hyfforddi bob blwyddyn, drwy ostyngiad mewn apwyntiadau meddygon teulu, yn uniongyrchol oherwydd uwchsgilio cleifion yn ddigidol. Byddai arbedion yn amrywio o £20 miliwn yn 2023 i £146,9 miliwn yn 2032, sy’n grynhoad dros y cyfnod cyfan hwnnw, a disgwylir i’r buddion i’r GIG ddod i gyfanswm o £899 miliwn.
Mae gwerthusiadau wedi dangos bod ymyriadau, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau digidol, yn:
- Gwella hyder pobl wrth ddefnyddio offer iechyd digidol
- Rhoi hwb i’r sawl sy’n manteisio ar wasanaethau fel trefnu apwyntiadau ar-lein
- Cynyddu hunanofal ar gyfer mân anhwylderau
- Arbed amser ac arian
Ein gwaith gyda darparwyr iechyd a gofal
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda phob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth yn amrywio o hyfforddiant ymarferol i staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill er mwyn datblygu eu sgiliau digidol, i gefnogaeth strategol er mwyn cefnogi uwch swyddogion gweithredol iechyd i integreiddio cynhwysiant digidol yn eu gwasanaethau sy’n ymwneud â dinasyddion.
Yn ogystal â’n gwaith gyda byrddau iechyd, rydym yn gweithio gyda chlystyrau Gofal Sylfaenol, darparwyr gofal anstatudol a’r sector gwirfoddol.