Neidiwch i’r prif gynnwys

Sut y gallwn ni helpu?

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Dyn a dynes yn edrych ar sgrin cyfrifiadur

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cymorth rhad ac am ddim ar gael i bob sector yng Nghymru ac mae’n cynnwys:

Ymgynghori – Mae ein Cynghorwyr ar gael i gyfarfod â chi i drafod eich uchelgeisiau a’ch gofynion ac i archwilio dulliau strategol a gweithredol o ddatblygu a gwreiddio Cynhwysiant Digidol yn eich sefydliad. Gallant eich tywys chi trwy’r amrywiol gymorth, gan gynnwys rhoi benthyg cyfarpar digidol – fel llechi, gliniaduron a MiFis – am gyfnod byr-dymor fel y gallwch roi cynnig ar dechnoleg newydd a darparu gweithgareddau digidol. Mae ein hymgynghoriadau’n cynnig cymorth gwerthfawr er mwyn cymryd y camau cadarnhaol gofynnol i ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu a phobl Cymru. Ein nod yw cynorthwyo â gwreiddio a datblygu Cynhwysiant Digidol i sicrhau na chaiff unrhyw un ei adael ar ôl yn y byd mwyfwy digidol rydym ni’n byw ynddo.

Hyfforddiant – Rydym yn cyflwyno ystod eang o hyfforddiant Cynhwysiant Digidol i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i roi iddynt yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio technoleg eu hunain a helpu eraill. Mae gennym amrywiaeth fawr o hyfforddiant a luniwyd i ennyn diddordeb amrywiaeth o gynulleidfaoedd, o ysbrydoli staff i ddefnyddio digidol, i helpu eraill a bod yn ddiogel ar-lein. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant pwrpasol a luniwyd yn benodol i’ch sefydliad a’ch anghenion cynhwysiant digidol chi. Mae’r hyfforddiant a ddarparwn i sefydliadau a phobl yng Nghymru yn mynd law yn llaw â’r cymorth ymgynghori digidol gan ein tîm arbenigol o Gynghorwyr.

Archwiliad sgiliau digidol – Efallai bod deall sgiliau digidol a hyder eich staff neu wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r cyhoedd o ddiddordeb i chi. Rydym wedi creu arolwg sgiliau sy’n eich helpu i ddeall hyn. Mae’r arolwg yn seiliedig ar y sgiliau bob dydd a welir yn y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol. Ar ôl cwblhau’r archwiliad, byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn rhoi rhaglen hyfforddiant i chi a luniwyd ar gyfer eich anghenion.

Gwirfoddoli – Mae gwirfoddolwyr digidol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i fod ar-lein yng Nghymru. Maen nhw’n bobl â sgiliau digidol sylfaenol sydd am helpu eraill i elwa o dechnoleg ddigidol. Gallwn helpu i wella sgiliau digidol a hyder gwirfoddolwyr presennol a chynorthwyo â datblygu rhaglenni gwirfoddoli digidol.

Mae Cymunedau Digidol Cymru’n cynnig hyfforddiant ar gyfer dau fath o wirfoddoli digidol:

  1. Hyrwyddwyr Digidol – Oedolion sydd wedi cael hyfforddiant i gynorthwyo eraill i ddysgu sgiliau digidol yn y gweithle neu yn eu cymuned.
  2. Arwyr Digidol – Pobl ifanc sydd wedi cael hyfforddiant i gynorthwyo aelodau o’u cymuned leol â sgiliau digidol.

Siarter Cynhwysiant Digidol Cymru – Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn caniatáu i chi ddangos ymrwymiad eich sefydliad i liniaru allgau digidol fel y gall pawb wneud y mwyaf o’r hyn sydd gan ddigidol i’w gynnig. Gall sefydliadau ennill Achrediad trwy gyflwyno cynllun gweithredu yn llwyddiannus.

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru – Rydym yn adeiladu partneriaethau rhwng sefydliadau, lle y gall cydweithio ddatblygu nodau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Mae croeso i unrhyw sefydliad ymuno â rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, sydd wedi’i ddatblygu gyda rhanddeiliaid ar draws nifer o sectorau i weithredu ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Gallwn weithio ledled Cymru gyfan gydag unrhyw sefydliadau sy’n cefnogi pobl a fyddai’n elwa o fod ar-lein.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn rhaglen i Lywodraeth Cymru, a gyflwynir gan Cwmpas.

Mwy am ein gwasanaethau