Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
Mae’r Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) yn dwyn ynghyd sefydliadau ar draws Cymru sy’n cydweithio i greu Cymru sy’n gynhwysol yn ddigidol. Mae gan y Gynghrair dros 100 o aelodau sy’n cynrychioli sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, cwmnïau’r sector preifat a sefydliadau academaidd, ac maent oll yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd eisiau gwneud hynny yn gallu cael mynediad i adnoddau a thechnolegau digidol yn eu bywydau bob dydd a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny.
Mae bod yn aelod o’r Gynghrair yn gyfle i gymryd rhan a llunio’r gwaith o ddarparu menter arloesol sy’n ysbrydoli gweithredu cynhwysiant digidol ac yn gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ymgysylltu â gwasanaethau digidol a’r byd digidol.
Os oes gan eich sefydliad syniadau neu brofiad gwych o wella cynhwysiant digidol neu os yw’n awyddus i ddysgu beth mae eraill yn ei wneud, beth am ymuno â ni? Dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu anfonwch e-bost atom diaw@cwmpas.coop am fwy o wybodaeth.
Y Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio
Mae’r Gynghrair yn cynnwys Rhwydwaith a Grŵp Llywio. Mae’r Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio yn gweithio ochr yn ochr dan un faner, gan fanteisio ar gryfderau ei gilydd, er mwyn creu mudiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr terfynol a’r strategaeth lefel uwch.
Mae Rhwydwaith DIAW yn agored i bob sefydliad sy'n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru
Mae aelodau'r Grŵp Llywio yn arwain y Gynghrair i sicrhau bod Cymru'n dod yn esiampl o gynhwysiant digidol
O Gynhwysiant i Wydnwch 2il Argraffiad: agenda ar gyfer cynhwysiant digidol
Cyhoeddodd CCDC agenda ym mis Mawrth 2023 sy’n nodi ein pum maes blaenoriaeth. Mae rhain yn:
Rydym yn defnyddio’r meysydd blaenoriaeth hyn i ganolbwyntio ein trafodaethau a’n gweithredoedd, er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nodau cyffredin.