Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant
Prosiect Llywodraeth Cymru yw Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru
Dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf 2019 a bydd yn parhau tan fis Mehefin 2022.
Sefydliad cydweithredol dielw yw Cwmpas sy’n cefnogi pobl yng Nghymru i wella’u bywydau a’u bywoliaeth. Am dros ddegawd, rydym ni wedi bod yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol er mwyn eu galluogi nhw i gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau a swyddi. Ni oedd prif bartner cyflenwi prosiectau Cymunedau @ Ei Gilydd a Chymunedau 2.0 Llywodraeth Cymru, a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â Chymunedau Digidol Cymru a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dulliau gwaith cydweithredol
Mae ein dull o rymuso unigolion a chymunedau yn gydweithredol. Rydym yn helpu cymunedau i ddatblygu yn gydweithredol. Rydym yn galluogi pobl i gael mynediad at hyfforddiant a dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi nhw i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau.
Technoleg er daioni
Yn ogystal â’n gwaith ym maes cynhwysiant digidol, rydym yn cydweithio gyda’r sector elusennol a chymdeithasol i harneisio technoleg ddigidol er budd cymdeithasol. Rydym yn cefnogi esblygiad digidol, yn annog arloesi digidol ac yn darparu nifer o brosiectau digidol eraill i’n helpu ni i gyrraedd y nod.
Mae Canolfan Datblygu a Hyfforddi Cydweithredol Cymru Cyf. (sy’n masnachu fel Canolfan Cydweithredol Cymru) wedi cofrestru’n unol â Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, rhif 24287 R.