Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cymunedaudigidol.llyw.cymru
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Cwmpas. Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch o’r wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
- anfonwch neges e-bost at digitalcommunities@cwmpas.coop
- ffoniwch 0300 111 5050
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon bob amser. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy’r dulliau sydd ar gael.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb-yn-wyneb
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni drwy ein tudalen gyswllt.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cymunedau Digidol Cymru a Cwmpas wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan wedi cael ei hasesu gan Wasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw ac wedi cael ei phrofi gan bobl ag ystod eang o anableddau i amlygu rhwystrau hygyrchedd a allai fod yn bresennol, a gweithredu datrysiadau i ddarparu cynnwys cynhwysol.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill nad ydynt yn HTML
Nid yw unrhyw un o’n dogfennau PDF neu Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol o ran darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio taflenni PDF neu ddogfennau PDF a luniwyd gan sefydliadau eraill.
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gynhyrchwn o Ionawr 2024 yn bodloni safonau hygyrchedd.
Ein tudalen Astudiaethau Achos
Nid yw’r ffurflen ar ein Hastudiaethau Achos yn gwbl hygyrch, oherwydd mae’n bosibl nad yw defnyddwyr yn ymwybodol o newid cynnwys wrth gyflwyno.
Gall fod rhai achosion hefyd o:
- Testun Cyswllt nad yw’n Ddisgrifiadol
- Dolenni gwag
- Ardaloedd Dibynnol ar Lygoden
- IDau dyblyg
- Dolenni gwag
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni i ofyn am wybodaeth.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2023.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y prawf hygyrchedd yma.