Neidiwch i’r prif gynnwys

Cysylltu â ni

Fe hoffem glywed gennych chi!

Mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg, ac rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon gyfartal yn y ddwy iaith.

Ffôn: 0300 111 5050

Twitter: @DC_Wales

Cyfeiriad: Sbarc, Stryd Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru a ddarperir gan Cwmpas. Mae’r rhaglen yn darparu cefnogaeth i unrhyw sefydliad i helpu i ddatblygu prosiectau cynhwysiant digidol ac i gynyddu sgiliau digidol a hyder y bobl maen nhw’n eu cefnogi. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a’r hyn rydyn ni’n ei wneud i’w gweld ar ein gwefan – www.digitalcommunities.gov.wales.

Ein nod yw helpu cymaint o sefydliadau a phobl yng Nghymru â phosibl, ond oherwydd pandemig Covid-19, mae’r galw cyfredol ar y rhaglen yn uchel iawn. Er mwyn helpu i reoli’r galw cynyddol, gweler y canllawiau isod yn rhoi manylion yr hyn y gallwn ac na allwn ei gefnogi:

Beth allwn ei gefnogi

  • Sefydliadau o bob sector yng Nghymru i archwilio sut y gallwch chi ddarparu cynhwysiant digidol gyda’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
  • Hyfforddiant cynhwysiant digidol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr.
  • Hyfforddiant cynhwysiant digidol i unigolion ar sail grŵp trwy sefydliadau.
  • Hyfforddiant ar-lein trwy weminarau, sesiynau hyfforddi pwrpasol ac adnoddau ar-lein. Edrychwch ar ein gwefan am fanylion pellach.
  • Sefydliadau sy’n eisiau datblygu prosiect gwirfoddoli digidol.

Yr hyn na allwn ei gefnogi

  • Unigolion neu deuluoedd sydd angen offer neu ddata, er ein bod ni’n cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gydag unigolion.
  • Dylid anfon unrhyw ymholiadau teuluol gan gynnwys diffyg dyfeisiau digidol ar gyfer plant oed ysgol at yr awdurdod lleol.
  • Fodd bynnag, unigolion sydd angen hyfforddiant neu help i fynd ar-lein, rydym yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gydag unigolion.
  • Mae eich Canolfan Ar-lein leol, llyfrgelloedd lleol a llawer o leoliadau cymunedol yn cynnig cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno mynd ar-lein. Mae gan Learn My Way gyrsiau am ddim i chi ddysgu sgiliau digidol er mwyn cadw’n ddiogel ac yn gysylltiedig.
  • Ceisiadau cyllido er efallai y byddwn yn gallu cyfeirio at ffynonellau cyllid priodol.

Cysylltwch

I ofyn cwestiwn cyffredinol, i ofyn am gymorth, neu i drafod gwirfoddoli, llenwch y ffurflen isod. Nod ein tîm yw ymateb ichi o fewn 5 diwrnod gwaith.