Neidiwch i’r prif gynnwys

Nid yw 7% o oedolion yng Nghymru ar-lein

Maen nhw’n colli allan ar gyfleoedd i arbed arian, ffeindio gwaith, dysgu sgiliau a chael mynediad at wasanaethau pwysig. Mae nifer ohonynt eisoes yn ymdopi â materion fel unigedd, tlodi neu ddiweithdra – materion sy’n waeth oherwydd nad ydynt ar-lein.

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u dieithrio’n ddigidol. Rydym ni’n eu helpu nhw i ddarparu gweithgareddau cynhwysiant digidol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu gweithio’n effeithiol a chael effaith gadarnhaol.

Darganfyddwch fwy
dyn iau yn dangos dyn hŷn sut i ddefnyddio cyfrifiadur

Cysylltwch â ni

Mae ein cefnogaeth am ddim ac yn cynnwys hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr, help gyda rhaglenni gwirfoddoli digidol a benthyciadau offer digidol. Gallwn weithio ledled Cymru gyfan gydag unrhyw sefydliad sy’n cefnogi pobl a fyddai’n elwa o fynd ar-lein. Cysylltwch heddiw i ddarganfod sut y gallwn eich helpu chi.

Cysylltwch
Infographic: gwneud Cymru'n genedl wirioneddol ddigidol

Join us on social media