Neidiwch i’r prif gynnwys

Benthyciad dyfais yn ysbrydoli Mosg Abertawe i fuddsoddi mewn digidol

A photograph of Swansea Mosque

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd, a Llesiant wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Mosg Abertawe i wella cynhwysiant digidol trwy fenthyca dyfeisiau digidol. Mae’r fenter hon wedi grymuso staff y mosg a myfyrwyr trwy wella darpariaeth addysgol, creu cymuned sydd wedi’i chysylltu’n well, a chreu diddordeb dyfnach ym mhotensial technoleg.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i wella mynediad digidol yn ein cymuned. Mae eu cefnogaeth wedi gwella ein rhaglenni addysgol ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i fuddsoddi mewn offer digidol ychwanegol i gefnogi ein staff a’n myfyrwyr ymhellach.” – Shah Miah, Swyddog Addysg Mosg Abertawe

Mosg Abertawe yw’r un fwyaf yng Nghymru sy’n gwasanaethu bron i 10,000 o Fwslimiaid yn y De a’r Gorllewin. Wedi’i leoli yng nghanol Abertawe gyda chymuned amrywiol ac amlddiwylliannol, mae’r Mosg nid yn unig yn fan addoli ond mae hefyd yn darparu gwasanaethau amrywiol eraill, gan gynnwys dysgu addysgol i bobl ifanc ac oedolion.

Er mwyn ceisio gwella eu cynnig cynhwysiant digidol, ymgysylltodd Mosg Abertawe â Cymunedau Digidol Cymru, gan ddysgu mwy am y rhaglen a sut y gall gefnogi. Daeth i’r amlwg y gallai Cymunedau Digidol Cymru gael dylanwad cadarnhaol ar raglenni dysgu addysgol y mosg trwy fenthyca dyfeisiau digidol a chynnig mynediad at becynnau meddalwedd a hyfforddiant penodol ar storio data.

Gan gydnabod mai gliniaduron fyddai’r dyfeisiau digidol mwyaf buddiol, gan fod llawer o ddefnyddwyr yn gyfarwydd â nhw, darparodd Cymunedau Digidol Cymru liniaduron iddynt ar fenthyg am chwe mis. Y farn oedd mai’r gliniaduron hyn, gyda mynediad at becynnau Microsoft, fyddai’r adnoddau gorau i gefnogi gweithgareddau addysgol y mosg.

Diolch i’r gliniaduron, roedd modd i’r staff gael mynediad at hyfforddiant mewnol a meithrin eu sgiliau digidol a’u hyder, a oedd yn cynnwys dysgu mwy am blatfformau Google fel Google Drive. Roedd hyn yn fodd iddynt sicrhau bod dogfennau a chynnwys yn cael eu cadw’n ddiogel ar blatfform storio ar y cwmwl. Canlyniad hynny oedd ei bod hi’n haws cael gafael ar wybodaeth a’i rhannu, a hefyd yn ffordd o symud i ffwrdd o arbed cynnwys ar adnodd storio USB, y gellir ei golli dros dro, ei golli neu ei ddifrodi.

Roedd y gliniaduron hefyd yn galluogi staff i ddefnyddio Microsoft PowerPoint i ddarparu cyflwyniadau yn ystod y gwersi, gan wella’r profiad addysgu cyffredinol. O ganlyniad, fe wnaeth tua 72 o fyfyrwyr ifanc sy’n mynychu sesiynau dysgu dyddiol yn y mosg elwa ar gyfleoedd addysgol gwell a mwy deniadol.

Gyda’r cynllun benthyca gliniaduron mor boblogaidd, mae’r mosg bellach wedi mynd ati i fuddsoddi mewn dwsin o Chromebooks, gan barhau i gefnogi staff i gyflwyno dosbarthiadau i fyfyrwyr a chaniatáu i fyfyrwyr ymgysylltu’n fwy gweithredol yn eu dosbarthiadau. Mae’r mosg hefyd wedi cyflwyno adnoddau digidol amrywiol eraill i wella ei wasanaethau, megis byrddau gwyn rhyngweithiol electronig a system PA, gan ffrydio pregethau a darlithoedd yn rheolaidd trwy ffrydiau YouTube byw.

Mae Mosg Abertawe hefyd wedi ymuno â’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol, rhwydwaith o sefydliadau yn y DU sy’n darparu cymorth lleol am ddim i bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd, a sefydlwyd gan bartneriaid rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, Good Things Foundation. Yn ogystal ag ymuno â’r rhwydwaith, mae’r mosg wedi llwyddo i wneud cais am grant gan y Good Things Foundation i gefnogi troi eu llyfrgell yn Hyb Cynhwysiant Digidol i ganiatáu i’r gymuned leol ddefnyddio’r cyfleusterau.

Meddai Mohammed, Basit, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru ar gyfer Cymunedau Ethnig Leiafrifol:

“O fewn pwyllgor rheoli’r Mosg mae arbenigedd o wahanol gefndiroedd ac mae’n wych gweld bod y Mosg yn ymwybodol o bwysigrwydd cynhwysiant digidol i ddarparu cefnogaeth i staff, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach.

“Drwy gydweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, mae Mosg Abertawe wedi gwella ei gallu i ddarparu gwasanaethau addysgol a chefnogi ei gymuned, gan osod esiampl gref o sut y gall mentrau cynhwysiant digidol wneud gwahaniaeth go iawn.”

Am ragor o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol i gymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, neu os hoffech gymorth uniongyrchol neu dim ond sgwrs, cysylltwch â Mohammad Basit trwy e-bostio mohammed.basit@cwmpas.coop neu ffonio 07824 035880.