Sesiynau sgiliau digidol am ddim

Gweler isod fanylion am y sesiynau ar-lein Cymraeg a Saesneg sydd gennym ar y gweill, ynghyd â’r dolenni i gofrestru eich lle arnynt.
Rydyn ni wedi ceisio gwneud y broses arwyddo mor syml â phosib ond os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru, cysylltwch â DCWtraining@cwmpas.coop
Ebrill
Tlodi Data a Manteision Rheoli Arian Ar-lein – 27 Ebrill | 10:00 – 11:30
Bydd y sesiwn hon drwy gyfrwng y Saesneg gyda Chyfieithydd ar y pryd.
Mae’r sesiwn hon yn trafod helpu pobl i reoli eu harian ar-lein, gan gynnwys rhai o’r prif rwystrau sy’n wynebu pobl wrth gael mynediad at wasanaethau ar-lein a’u defnyddio. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl ar-lein, oherwydd gweithio gartref, defnyddio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadw mewn cysylltiad â’n teuluoedd a chymunedau – ond dyw hynny ddim wedi bod yn hawdd i bawb.
Bydd y sesiwn ar-lein hon yn:
- Archwilio tlodi data, beth yw hynny a sut i’w oresgyn
- Helpu i ddeall y cysylltiad rhwng allgau digidol ac allgau ariannol
- Darparu ffyrdd o helpu pobl i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau ar-lein mewn ffordd ddiogel
- Rhannu rhai adnoddau ac offer digidol y gallwch eu defnyddio gyda’ch cleientiaid er mwyn eu helpu i reoli eu harian
Mae gennym siaradwyr arbenigol o Cymunedau Digidol Cymru i helpu gydag unrhyw gwestiynau am y byd ar-lein, a chydweithwyr Arweinwyr Ariannol o MaPS i helpu i gynnal y drafodaeth a’n cyfeirio at fwy o gyfleoedd dysgu. Bydd lle i rwydweithio a chysylltu ag eraill ledled Cymru.
Rydym wedi’n cyfyngu i uchafswm o 100 o westeion, felly archebwch cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi.