Neidiwch i’r prif gynnwys

Grŵp Cynefin

Mae Grŵp Cynefin yn landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ledled Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o dai a gwasanaethau cysylltiedig â’r gymuned gan gynnwys gofal ychwanegol, tai gwarchod, cartrefi i’w rhentu, tai â chymorth a thai fforddiadwy. Mae Grŵp Cynefin hefyd yn cefnogi’r gymuned drwy eu canolfannau cymunedol, atal digartrefedd a grantiau cymunedol.

Mae Hafod y Gest yn gynllun tai gofal ychwanegol a ddatblygwyd yn 2018 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Mewn lleoliad cyfleus mae’r cynllun yn darparu gwasanaethau tai, cymorth a gofal i bobl dros 55 oed.

Meddai Dewi Smith, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, “Mae’r astudiaeth achos wir yn dangos gwerth sgiliau digidol a sut y gall y rhain helpu i wella lles. Gall sgiliau digidol wella cysylltiadau cymdeithasol, galluogi mynediad at wybodaeth a darparu mynediad at wasanaethau ar-lein. Drwy weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin rydyn ni wedi gallu cefnogi pobl a fyddai fel arall wedi’u hallgáu’n ddigidol i ymgysylltu â’r byd ar-lein.”