Neidiwch i’r prif gynnwys

Diweddariad ar raglen ddiwygiedig Cymunedau Digidol Cymru

DCW's Laura Phillips delivering a digital inclusion session

Ar ddiwedd 2023, roedd Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC) yn dan berygl toriadau cyllidebol ar ôl y cyhoeddiad Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru, a adawodd ansicrwydd ynghylch sut y byddai’r rhaglen yn cael ei chyflawni yn y dyfodol. Yn dilyn cyfnod o lobïo proffil isel ynghylch pwysigrwydd cyllid ar gyfer cynhwysiant digidol, llwyddodd Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i arian ychwanegol i adfer y rhaglen i werth llawn, gyda ffocws a chynllun cyflawni diwygiedig. Cytunwyd ar y cynllun hwn gyda chyfraniad sylweddol gan gyllidwyr CDC a chymeradwyaeth y Bwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol a Sgiliau. 

Ffocws a nod CDC rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Mehefin 2025 yw ymgorffori a phrif ffrwd cynhwysiant digidol mewn meysydd thematig a nodwyd gan sicrhau perchnogaeth o gynhwysiant digidol.  

Mae ein meysydd thematig yn cynnwys Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, a Chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Gwyddom mai’r ardaloedd hyn sydd â’r pwyntiau cyffwrdd mwyaf gyda chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys pobl ag anableddau a chyflyrau cyfyngus gydol oes. Rydym hefyd yn gwybod mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n profi allgáu digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol. Bydd ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn wrth i ni weithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gan eu staff a’u gwirfoddolwyr y sgiliau angenrheidiol i gefnogi eraill.    

Byddwn hefyd yn darparu benthyciadau dyfais i brosiectau lle mae’n briodol ac yn cyd-greu deunyddiau ac adnoddau gyda sefydliadau i’w cefnogi i ymgorffori datrysiadau cynhwysiant a dylunio digidol sy’n diwallu anghenion eu staff, gwirfoddolwyr a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Bydd ein gwaith hefyd yn cynnwys annog sefydliadau a phobl i ymgysylltu, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer map ‘Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein’, a pharhau i hyrwyddo partneriaid Good Thing Foundation a’u Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol, gan gynnwys y banc data a’r banc dyfeisiau. Byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith gyda chynlluniau Chymunedau am Waith a ReACT i gefnogi’r gwaith o ddarparu cynllun benthyca dyfeisiau Chromebook sydd ar gael i bobl sydd angen i’w helpu i chwilio am, a chael, swydd. 

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod cynhwysiant digidol yn rhan annatod o sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni ellir ei hyrwyddo gan un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithredu ac ymrwymiad gan randdeiliaid amrywiol, gan weithio gyda’n gilydd i greu cenedl gynhwysol ddigidol yng Nghymru sydd o fudd i bawb ac sy’n gadael neb ar ôl. 

Mae gwaith ein Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) yn hanfodol i’r cydweithrediad hwn wrth iddo fwrw ymlaen â’r agenda cynhwysiant digidol gyda sefydliadau o bob sector yng Nghymru. Gan gydnabod hyn, byddwn yn gweithio i nodi strwythur a model ariannu priodol i ganiatáu i CCDC fod yn hunangynhaliol ac yn annibynnol wrth symud ymlaen.

Os oes unrhyw gefnogaeth y gallwn ei darparu o amgylch y meysydd thematig hyn, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i drafod efo chi.