Neidiwch i’r prif gynnwys

Oes angen dyfais ddigidol arnoch chi er mwyn chwilio am waith?

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes angen gliniadur neu ddyfais ddigidol arnoch chi i’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd, ail-ysgrifennu eich CV neu wneud cais am swyddi ar-lein? Rydyn ni’n gweithio gyda Chymunedau am Waith i roi benthyg dyfeisiau i rai sy’n chwilio am waith.

Young woman searches for work online

Pam fod angen dyfais ddigidol arnaf er mwyn cael swydd?

Y dyddiau yma, mae bron yn hanfodol bod ar-lein er mwyn dod o hyd i swydd. Mae’r rhan fwyaf o swyddi’n cael eu hysbysebu ar-lein ac mae disgwyl i bobl wneud cais ar-lein. Mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â sgiliau digidol sylfaenol ac yn gofyn i bobl am CV digidol. Efallai y bydd hyd yn oed angen cyrsiau neu gymwysterau arnoch sydd ond yn bosibl eu gwneud ar-lein.

Gall gwneud hyn i gyd ar ffôn clyfar fod yn anodd. Fel arfer mae’n llawer haws ar liniadur neu hyd yn oed ar ddyfais dabled. Ond nid pawb sydd ag un o’r rhain.

Mae Cymunedau Digidol Cymru a Chymunedau am Waith wedi ymuno i roi gliniaduron a thabledi i bobl sydd angen un er mwyn eu helpu i chwilio am swydd a sicrhau swydd.

Roedd Anna wedi bod yn ddi-waith am 15 mlynedd, ond fe wnaeth benthyg gliniadur gan Gymunedau am Waith ei galluogi i ddysgu sgiliau digidol newydd, ennill cymwysterau a gwneud cais am swyddi ar-lein.

Gwylio fideo (yn Saesneg)
Screen shot of Anna's story

Doedd Kyle ddim yn gallu fforddio gliniadur ond roedd angen un arno er mwyn gwneud cais am swyddi ar-lein. Rhoddodd CfW+ fenthyg dyfais iddo ac erbyn hyn mae’n ôl mewn gwaith.

Gwylio fideo (yn Saesneg)
Screenshot of Kyle's story

Beth yw Cymunedau am Waith?

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith sy’n rhoi cymorth a chyngor i bobl sydd heb fod mewn gwaith ac sy’n wynebu llawer o rwystrau sy’n ei gwneud yn fwy anodd iddyn nhw sicrhau swydd. Bydd gennych eich mentor eich hun a fydd yn cwrdd â chi mewn man sy’n agos atoch chi. Gallwch hefyd gael:

  • Mynediad i ystod eang o gyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith a gwirfoddoli
  • Hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol fel CSCS, SIA, Hylendid Bwyd, Trin Gwallt
  • Sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys diweddaru CV, gwneud ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Meithrin hyder
  • Help a chyngor gyda theithio, gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu
  • Canllawiau a chymorth i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer gwneud ceisiadau am swyddi ar-lein
  • Help i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith addas

Mae gen i ddiddordeb yng Nghymunedau am Waith. Beth sydd angen i mi ei wneud?

I gael gwybod a allwch gael cymorth gan CfW+ a benthyg gliniadur gan y rhaglen, cysylltwch â’ch tîm lleol:

Abertawe

Ffon: 01792 457025

Ebost: cfwtriage@swansea.gov.uk

Blaenau Gwent

Ffôn: 01495 304352 / 01495 357757

Ebost: aimee.goulding@gavowales.org.uk

Bro Morgannwg

Ffôn: 07874 635237

Ebost: c4w-barry@valeofglamorgan.gov.uk

Casnewydd

Ffôn: 08081 963482

Ebost: CentralHub@newport.gov.uk

Castell-nedd Port Talbot

Ffôn: 01639 685915

Ebost: jobsupport@npt.gov.uk

Caerdydd

Ffôn: 029 2087 1000

Ebost: CFW@cardiff.gov.uk

Caerffili

Ffôn: 07825 634157

Ebost: n/a

Ceredigion

Ffôn: 01545 574193

Ebost: TCC-EST@ceredigion.gov.uk

Conwy

Ffôn: 01492 575578 / 07711 567191

Ebost: communitiesforwork@conwy.gov.uk

Merthyr Tydfil

Ffôn: 01685 727077

Ebost: C4wmailbox@merthyr.gov.uk

Pen-y-bont ar Ogwr

Ffôn: 01656 815317

Ebost: employability@bridgend.gov.uk

Powys

Ebost: jobsupport@powys.gov.uk

Rhondda Cynon Taf

Ffôn: 01443 744308

Ebost: eira.cook@rctcbc.gov.uk

Sir Benfro

Ffôn: 01437 776437

Ebost: cfwplus@pembrokeshire.gov.uk

Sir Ddinbych

Ffôn: 01824 706491

Ebost: cerian.phoenix@denbighshire.gov.uk

Sir Fflint

Ffôn: 01352 704430

Ebost: julie.price@flintshire.gov.uk

Sir Fynwy

Ffôn: 07929 749966

Ebost: cfw@monmouthshire.gov.uk

Sir Gaerfyrddin

Ffôn: 01554 744303

Ebost: employmentsupport@carmarthenshire.gov.uk

Torfaen

Ffôn: 01495 742131/01633 648312

Wrecsam

Ffôn: 01978 802418 / 01978 820520

Ebost: CFW@wrexham.gov.uk

Ynys Môn

Ffôn: 01248 750057

Ebost: contactmon@anglesey.gov.uk

Astudiaethau achos o gynllun benthyca dyfeisiau Cymunedau am Waith