Cyfeillion Digidol
Croeso, Gyfeillion Digidol y Dyfodol
Nid yw mynd ar-lein yn hawdd i bawb. I lawer o bobl sydd ddim ar-lein, y person gorau i’w helpu nhw yw CHI – ffrind maen nhw’n ymddiried ynddo neu aelod o’r teulu sy’n eu hadnabod yn dda ac yn gallu gweithio gyda nhw un-i-un. Does dim rhaid bod gennych chi sgiliau cyfrifiadurol gwych; dim ond bod yn gyfarwydd â defnyddio’r we i’w helpu nhw i oresgyn eu hofnau a meithrin hyder i ddefnyddio dyfeisiau digidol – drwy fod yn Gyfaill Digidol iddyn nhw.
Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i ddolenni ac adnoddau defnyddiol i helpu’r rhai o’ch amgylch wella eu sgiliau digidol. Mae’r cam hwn mor bwysig a diolch i chi am helpu’r rhai rydych chi’n eu hadnabod i ennill sgiliau digidol.
Adnoddau
Dechrau arni fel Cyfaill Digidol
Ein canllaw cam-wrth-gam ac awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i ddangos i rywun sut mae defnyddio’r rhyngrwyd am y tro cyntaf.
Helpu rhywun i fynd ar-lein yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clo (Digital Unite)
Bydd canllawiau ac awgrymiadau defnyddiol Digital Unite ar fod yn Gyfaill Digidol o bell yn eich helpu chi wneud gwahaniaeth i eraill, waeth faint o bellter sydd rhyngoch chi.
Helpu rhywun i osod a defnyddio dyfais newydd o bell (Digital Unite)
Gall gosod a defnyddio dyfais newydd gymryd amser, yn enwedig os nad yw’r person sydd â’r ddyfais yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg. Mae Digital Unite wedi creu’r canllaw hwn fel y gallwch helpu rhywun i osod a defnyddio eu dyfais heb fod gyda nhw.
Eich canllaw ar helpu pobl hŷn i ddefnyddio’r rhyngrwyd (Good Things Foundation)
Os ydych chi am ddangos i bobl hŷn sut mae defnyddio’r rhyngrwyd am y tro cyntaf, neu helpu rhywun i wella ei sgiliau, dyma’r canllaw manwl i chi. Mae’n cynnwys adrannau ar beth y gallwch chi ei wneud ar-lein, sut i gadw’n ddiogel ar-lein, defnyddio dyfeisiau gwahanol a chysylltu â’r rhyngrwyd.
Eich canllaw ar ddefnyddio gemau i addysgu sgiliau llechen (Good Things Foundation)
Nod y canllaw hwn yw eich helpu chi i gyflwyno cyfrifiaduron llechen i bobl hŷn, drwy ddefnyddio gemau.
Learn My Way (Good Things Foundation)
Helpwch eich ffrind i ddatblygu ei sgiliau gyda llu o gyrsiau am ddim ar bynciau fel defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais, hanfodion mynd ar-lein, a sgiliau rhyngrwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau’n cymryd llai na 30 munud i’w cwblhau.
Gwneud y gorau o’r rhyngrwyd (Age UK)
Mae’r canllawiau hyn gan Age UK yn eich tywys drwy rai o’r camau allweddol i helpu rhywun i wneud y gorau o’r hyn sydd gan y rhyngrwyd i’w gynnig, gan gadw’n ddiogel. Mae’n cynnwys canllawiau ar ddefnyddio WhatsApp, galwadau fideo, e-bost ac A-B-C o dermau ar-lein.
Cyfarfod â Dorothy…
Mae Dorothy ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cael cefnogaeth i ddefnyddio’r rhyngrwyd, ar ôl derbyn iPad ar fenthyg gan Gyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam. Gyda chymorth ei hŵyr Harry, mae Dorothy bellach yn defnyddio ei iPad i gadw mewn cysylltiad â’i chefnder yn y Bala a’i ffrindiau mor bell i ffwrdd â Chanada.