Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Pam ymuno â Rhwydwaith DIAW?
Rydym yn cynnal cyfarfodydd ar-lein chwarterol ar gyfer Rhwydwaith DIAW sy’n rhoi’r cyfle i rannu gwybodaeth, gwneud cysylltiadau newydd o bob rhan o Gymru, ymgysylltu â’n gilydd ac adborth ar ffocws presennol gweithredu DIAW a phenderfyniadau yn y dyfodol. Rhwng cyfarfodydd, bydd cyfathrebu rheolaidd ynghylch cynhwysiant digidol yn dod gan Gydlynydd DIAW ac aelodau eraill o’r Rhwydwaith.
Dywed aelodau’r Gynghrair:
Rwyf wedi cyfarfod â phobl sy’n gallu fy nghefnogi’n uniongyrchol yn y gwaith rwy’n ei wneud
Rwyf wedi dysgu o rannu arfer da a syniadau
Rwyf wedi dod i wybod am raglenni neu brosiectau y gallaf eu cyrchu i gael cymorth
Rwyf wedi cael gwybod am bolisi, ymchwil a mentrau Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU
Rwyf wedi cael gwell dealltwriaeth o gynhwysiant digidol
Er mwyn ymuno â’r Rhwydwaith, yn gyntaf rhaid i sefydliadau ymuno â Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru er mwyn dangos eu hymrwymiad i’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae’r Cylch Gorchwyl yn cynnwys rhagor o fanylion am y Rhwydwaith a’r ymrwymiad y byddech chi’n ei wneud.
Os hoffech wylio recordiadau o gyfarfodydd Rhwydwaith y gorffennol, gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am DIAW, dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu anfonwch e-bost atom diaw@cwmpas.coop.