Neidiwch i’r prif gynnwys

Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru?

A graphic image of two people holding hands

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod. Gadewch i ni ystyried pam mae ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn gam craff i unrhyw sefydliad sydd wedi ymrwymo i sbarduno newid cadarnhaol yng Nghymru.

Mae bod yn rhan o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn agor drysau i amrywiaeth o arbenigedd, profiadau a thystiolaeth gan ystod o sefydliadau o bob sector. Trwy gyfuno adnoddau, gall sefydliadau osgoi ailddyfeisio’r olwyn a sicrhau bod eu mentrau’n cael yr effaith orau bosib. Mae gan aelodau fynediad at arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rhwydweithiau sydd yno at eu defnydd, gan eu galluogi i fireinio eu strategaethau cynhwysiant digidol i fod mor effeithlon â phosibl.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi pwys ar feithrin cysylltiadau ystyrlon drwy’r Rhwydwaith ac yn gwasanaethu fel hyb ar gyfer cysylltu ag eraill ym maes cynhwysiant digidol. Mae cydweithredu â sefydliadau o’r un anian yn meithrin cyfnewid syniadau ac arbenigedd, gan yrru cydymdrechion tuag at nod cyffredin – cynhwysiant digidol i bawb. Mae ymgysylltu â’r bobl gywir yn sicrhau bod sefydliadau’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau, polisïau ac ymchwil sydd ar y gweill. Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn grymuso aelodau i addasu ac arloesi’n effeithiol yn eu hymdrechion cynhwysiant digidol.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu traws-sector. Mae’r Gynghrair yn hwyluso trafodaethau agored am heriau ac atebion llwyddiannus a brofir ar lawr gwlad; mae’r wybodaeth gyffredin hon yn creu amgylchiadau ffafriol ar gyfer arloesi a datrys problemau. Mae’n cysuro sefydliadau nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain wrth wynebu rhwystrau, gan feithrin ymdeimlad o undod wrth fynd i’r afael â materion cymhleth.

Dydy cynhwysiant digidol ddim yn her ‘un ateb i bawb’ Mae’n gofyn am ddull amlochrog sy’n cynnwys gwahanol randdeiliaid. Trwy ddod at ei gilydd fel Cynghrair, gall sefydliadau ddefnyddio eu cryfder cyfunol  i roi diwedd ar allgau digidol mewn ffordd gynhwysfawr. Mae’r dull cydweithredol yma yn dod â safbwyntiau amrywiol i’r bwrdd, gan arwain at atebion mwy cyfannol.

I gloi, mae ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn gyfle heb ei ail i sefydliadau wneud gwahaniaeth go iawn yn nhirwedd ddigidol Cymru. Trwy gofleidio cyd-ddysgu, meithrin cysylltiadau gwerthfawr, cadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf, a rhannu heriau ac atebion, mae aelodau’r Gynghrair yn cyfrannu at gymdeithas fwy cynhwysol, sydd wedi’i grymuso’n ddigidol. Gyda’n gilydd, gallwn bontio’r rhaniad digidol a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn y byd cynyddol ddigidol hwn. Felly pam oedi? Ymunwch â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru heddiw a byddwch yn rhan o’r newid cadarnhaol!

Daw’r fideo byr hwn o’n sgwrs yn ystod Wythnos Arweinwyr Digidol 2023. Gallwch wylio’r fideo llawn yma [yn agor mewn tab newydd].