Siarter Cynhwysiant Digidol
Beth yw’r Siarter Cynhwysiant Digidol?
Mae’r Siarter yn bodoli i gefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru sy’n barod i hybu sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein.
Mae’r Siarter yn cynnwys chwe adduned ac mae’n ffordd i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fwynhau manteision bod ar-lein – yn enwedig pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ddi-waith, tenantiaid tai cymdeithasol, teuluoedd mewn tlodi a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Pan fyddwch yn llofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol, gofynnwn i chi ymrwymo i’r chwe addewid allweddol – gan ganiatáu i ni weithio gyda’n gilydd mewn ysbryd o gydweithredu er mwyn hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru. Byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu a chyflawni’r ymrwymiadau hynny drwy broses Achredu’r Siarter Cynhwysiant Digidol. Dysgwch pa sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol ac wedi mynd ymlaen i ennill statws Achrediad yma.
Addunedau’r Siarter
- Rydym yn sicrhau bod ein holl staff a gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol, a’u bod yn manteisio ar y cyfle hwn.
- Rydym yn sicrhau bod egwyddorion cynhwysiant digidol yn rhan annatod o’n gweithgareddau o ddydd i ddydd ac rydym yn cefnogi rôl offer digidol o ran rheoli iechyd a llesiant.
- Rydym yn annog ac yn cefnogi ein staff a’n gwirfoddolwyr i helpu pobl eraill i fynd ar-lein ac i feithrin yr hyder i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol, a helpu sefydliadau eraill i gofleidio offer digidol.
- Rydym yn ymrwymo i ddarparu cymorth ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau a mentrau cynhwysiant digidol yng Nghymru ym mha bynnag ffyrdd y gallwn, er mwyn sicrhau y gall pob dinesydd ymgysylltu’n ddigidol (os ydynt am wneud hynny).
- Rydym yn rhannu arfer gorau a gweithgarwch o ran cynhwysiant digidol gyda’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru – Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant fel bod ein gweithgareddau’n cael eu cydgysylltu er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl a’u mesur yn gyson.
- Rydym yn ceisio adeiladu partneriaethau lleol ymhlith sefydliadau sydd am rannu syniadau a chydlynu gweithgareddau gydag eraill yn eu hardal.