Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant cynhwysiant digidol

Mae pob math o hyfforddiant ar gynhwysiant digidol ar gael gan Cymunedau Digidol Cymru i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr er mwyn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth iddyn nhw allu defnyddio’r dechnoleg eu hunain a helpu eraill i wneud hynny hefyd. Mae ein hyfforddiant yn rhad ac am ddim, yn hyblyg, ac wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion eich sefydliad.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Cynnal Cynhwysiant Digidol yng Nghanolfan ASK yn y Rhyl. Tiwtor Deian ap Rhisiart gyda Michelle Archer, Natasha Harper a Nikki Wilson.

Pwy ydyn ni’n eu hyfforddi?

Mae ein hyfforddwyr profiadol yn darparu hyfforddiant i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr, gan gynnwys staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol, gofalwyr, cynghorwyr, llyfrgellwyr. Nod yr hyfforddiant yw mabwysiadu dull ‘Hyrwyddwyr Digidol’ lle gall staff a gwirfoddolwyr gynorthwyo eraill yn eu sefydliad a’u cymunedau.

Pam archebu hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru?

  • Mae’n rhad ac am ddim.
  • Mae gan ein staff brofiad helaeth o ddarparu hyfforddiant a chymorth cynhwysiant digidol.
  • Rydyn ni’n cynnig mynediad at lyfrgell helaeth o adnoddau hyfforddiant ar ôl bob sesiwn.
  • Mae’r sesiynau wedi’u teilwra’n llawn i ddiwallu anghenion eich sefydliad.
  • Gallwn gyflwyno sesiwn unigol neu gyfres o sesiynau.

Beth mae ein hyfforddiant yn ei gynnwys?

Mae gennym bob math o ‘hyfforddiant pwrpasol’ sydd wedi’i gynllunio i apelio at amrywiaeth o gynulleidfaoedd, o ysbrydoli staff i ddefnyddio digidol, i helpu eraill a bod yn ddiogel ar-lein. Bydd angen sgiliau TG lefel sylfaenol ar gyfranogwyr i gymryd rhan.

Man cychwyn ein holl hyfforddiant cynhwysiant digidol yw cael eich Hyrwyddwyr Digidol a nodwyd i fynychu sesiwn gyflwyno gyda’n tîm o Gynghorwyr Cynhwysiant Digidol profiadol. Bydd y sesiwn yn rhoi ysbrydoliaeth i’ch grŵp a chyflwyniad i’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Hyrwyddwr Digidol.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:

  • Beth yw Hyrwyddwr Digidol?
  • Beth i’w ddisgwyl gennym ni.
  • Enghreifftiau o weithgareddau ysbrydoledig.
  • Sut beth fyddai llwyddiant i chi fel sefydliad ac fel hyrwyddwr digidol?

Hyfforddiant dilynol

Ar ôl cwblhau’ch sesiwn cyflwyniad Hyrwyddwyr Digidol, efallai y bydd angen cefnogaeth, gwybodaeth neu gyngor penodol ar eich Hyrwyddwyr Digidol, neu hyfforddiant parhaus. Gall ein tîm ymroddedig o Gynghorwyr Cynhwysiant Digidol gynorthwyo gyda hyn.

 

Mae ein rhaglen gweminar yn cynnwys manylion yr holl sesiynau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein sydd gennym ar y gweill.

Porwch raglen gweminar
Dynes yn gwylio gweminar DCW

Astudiaethau achos