Neidiwch i’r prif gynnwys

Modiwl e-ddysgu: cyflwyniad i wirfoddoli digidol

Mae ein modiwl e-ddysgu 'Cyflwyniad i Wirfoddoli Digidol' yn ffordd wych o ddeall y rhwystrau y gall pobl eu hwynebu wrth fynd ar-lein, cael argymhellion ac arferion da i ymgysylltu â phobl, a dysgu sut i gynorthwyo pobl eraill sy’n newydd i’r rhyngrwyd.

Cartwn gwirfoddoli digidol

Nid yw 11% o boblogaeth Cymru ar-lein, felly un o’r ffyrdd gorau o helpu rhywun i fynd ar-lein neu wella eu sgiliau digidol yw cymorth uniongyrchol gan aelod o’r teulu neu unigolyn y gall ymddiried ynddo.

P’un a ydych yn berson ifanc sydd eisiau helpu aelod o’r teulu, myfyriwr sy’n gwneud Her Gymunedol Ddigidol Bagloriaeth Cymru neu’n oedolyn sydd eisiau trosglwyddo eich profiad o’r we i bobl eraill, rydym yn eich annog i ddilyn y cwrs hwn a dechrau eich taith bersonol i fod yn wirfoddolwr digidol.

I bwy mae’r modiwl hwn?

Mae’r modiwl dysgu hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl o unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir.

Does dim angen i chi feddu ar lefelau uchel o allu technegol. Rhaid i wirfoddolwyr digidol fod â diddordeb mewn defnyddio’r rhyngrwyd a thrugaredd ac amser i roi cymorth i bobl eraill. Bydd y dysgu’n darparu gwybodaeth gefndirol i chi a dealltwriaeth well o sut i gynorthwyo pobl mewn ffordd effeithiol.

Pa mor hir mae’n cymryd i’w gwblhau?

Dylai gymryd tua 30-45 munud i lywio’r modiwl dysgu ar eich cyflymder eich hun. Hefyd, gallwch bori trwy amrywiaeth eang o adnoddau ar y we gan ddefnyddio dolenni allanol o fewn y modiwl. Bydd yr adnoddau hyn ar gael ar ôl i chi orffen dysgu i’ch helpu i roi cymorth i bobl eraill.

Dechreuwch y modiwl

I gychwyn y modiwl, llenwch y ffurflen isod.

Rydym ni’n trin diogelwch data o ddifrif, ac yn prosesu data i gydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Byddwn ni ond yn prosesu eich data i gyflwyno’r gwasanaethau rydych chi wedi gwneud cais amdanynt, adrodd i’n harianwyr a gwerthuso ein heffeithiolrwydd. Cliciwch yma i ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd.