Neidiwch i’r prif gynnwys

Medrwn Môn

Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol yn Llangefni sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol ar Ynys Môn gan eu galluogi i weithio’n fwy effeithiol.

Maent yn ymwneud â nifer o brosiectau ar Ynys Môn sy’n cefnogi pobl sy’n byw ar yr ynys, gan gynnwys Car Linc Môn – cynllun cludiant cymunedol gwirfoddol, Cyswllt Cymunedol Môn – sy’n gynllun rhagnodi cymdeithasol a’r prosiect Technoleg mewn Gofal sy’n cefnogi cleifion o fewn meddygfeydd i ddefnyddio ap GIG Cymru.

Dywedodd Lon Moseley, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru “Mae’r gwaith a wnaed gan Medrwn Môn wrth gefnogi’r meddygfeydd a phobl Ynys Môn i ddefnyddio Ap GIG Cymru wedi bod yn hanfodol i’w lwyddiant. Mae cael rhywun yn lleol sy’n deall y problemau mae pobl yn eu hwynebu yn ogystal â’r amser a’r sgiliau i’w cefnogi wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio ap GIG Cymru yn hyderus ar Ynys Môn.”