Neidiwch i’r prif gynnwys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSNPT) yn darparu hyfforddiant a chymorth i ofalwyr maeth, gan gynnwys gofalwyr person cysylltiedig. Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gweithio’n agos gyda CBSNPT dros nifer o flynyddoedd i hyrwyddo a sefydlu cynhwysiant digidol, gan gynnwys hyfforddi nifer o Bencampwyr Digidol – a elwir yn Bartneriaid Digidol yn lleol – ar draws ystod o adrannau’r cyngor.

Mae Maethu NPT a Gwasanaethau Plant NPT yn cynnwys nifer o Bartneriaid Digidol hyfforddedig sy’n gweithio o fewn Gwasanaethau Plant, gan gefnogi staff a gofalwyr maeth fel ei gilydd. Mae’r Partneriaid Digidol hyn yn hyrwyddo llythrennedd TG, yn ymgorffori sgiliau digidol o fewn rhaglenni Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn cefnogi’r defnydd o Microsoft OneNote i strwythuro e-bortffolios. Maent hefyd wedi hyrwyddo cynhwysiant digidol ymhlith y gymuned faethu trwy gyflwyno a chefnogi Rhaglen Hyfforddiant Digidol bwrpasol.

Dywedodd Russell Workman, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru: “Mae wedi bod yn gyffrous gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sefydlu eu rhaglen Bartneriaid Digidol. Gellir gweld effaith ymagwedd ragweithiol tuag at gynhwysiant digidol yng ngwaith rhagorol y Partneriaid Digidol hyn. Mae’r astudiaeth achos hon yn enghraifft berffaith o bwysigrwydd hyrwyddo cynhwysiant digidol yn weithredol a’r buddion sy’n deillio o sefydlu rhwydwaith o bencampwyr digidol hyfforddedig.”