Neidiwch i’r prif gynnwys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gweithio’n helaeth gyda byrddau iechyd ledled Cymru i hyrwyddo manteision technoleg ddigidol i gleifion a staff fel ei gilydd. Un enghraifft o hyn yw’r defnydd o ddulliau digidol i gefnogi cleifion yng Nghanolfan Caswell Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA)—uned iechyd meddwl fforensig ganolradd ddiogel ar gyfer dynion a menywod.

Mae staff Therapi Galwedigaethol BIPBA wedi cael cefnogaeth gan Gymunedau Digidol Cymru drwy raglenni hyfforddiant ac ar fenthyg offer, gan eu galluogi i ddefnyddio technoleg ddigidol gyda chleifion i greu cyfrifon e-bost, defnyddio apiau ymlacio, ac archwilio’r byd drwy realiti rhithwir. Mae rhai cleifion wedi dechrau astudio cyrsiau Prifysgol Agored ar-lein, tra bod eraill wedi dysgu sut i ddefnyddio bancio ar-lein—gan roi ymdeimlad o annibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau.

Dywedodd Russell Workman, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol gyda Chymunedau Digidol Cymru: “Mae’n gyffrous gweld sut y gall technoleg ddigidol wella bywydau a lles pobl mewn cymaint o ffyrdd. Mae gwasanaeth Therapi Galwedigaethol BIPBA wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru ers sawl blwyddyn, ac mae’r staff yn rhagweithiol wrth geisio defnyddio dulliau digidol er budd cleifion. Mae hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithredu creadigol.”