Cymdeithas Tai Gogledd Cymru
Mae cynlluniau Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ar draws Abergele, Bangor a Phenmaenmawr wedi bod yn mwynhau bywyd digidol newydd ddiolch i raglen 10 wythnos o hyfforddiant wyneb yn wyneb. Wedi’u gyflwyno o fewn eu cynlluniau tai, mae’r sesiynau wedi helpu trigolion hŷn i fagu hyder gan ddefnyddio dyfeisiau digidol a chael mynediad i’r rhyngrwyd yn ddiogel. Cynlluniwyd y fenter i fynd i’r afael ag allgau digidol, gan sicrhau bod pawb – waeth beth fo’u hoedran neu eu gallu – yn gallu mwynhau manteision bod ar-lein.
Roedd y sesiynau wythnosol yn cwmpasu ystod eang o bynciau diddorol, wedi’u teilwra i ddiddordebau ac anghenion cyfranogwyr. O ddefnydd diogel o’r rhyngrwyd a sut i gael y gorau o YouTube, i gael mynediad at adnoddau iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau hel atgofion, roedd yr hyfforddiant yn ymarferol ac yn hwylus. Roedd yr hyfforddwyr yn hamddenol, gan ganiatáu digon o amser ar gyfer cwestiynau a chefnogaeth un-i-un, a helpodd i greu amgylchedd croesawgar a chefnogol.
Dywedodd Hannah, Swyddog Digidol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru “Mae rhai o’n trigolion wedi wynebu problemau gyda sgamiau, a thwyll, felly trwy ddod yma, maen nhw wedi ennill mwy o hyder mewn defnyddio’r rhyngrwyd, a’u dyfeisiau”.
Mae adborth gan breswylwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod bellach yn teimlo’n fwy cysylltiedig, annibynnol a gwybodus. Mae rhai wedi dechrau defnyddio tabledi i gadw mewn cysylltiad â’r teulu, ymweld â’u hen gymdogaethau ac ysgolion yn rhithwir, a hyd yn oed gwneud eu bancio eu hunain. Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at sut y gall hyd yn oed ychydig o gymorth wedi’i dargedu gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl – a chwalu rhwystrau i fynediad digidol a helpu preswylwyr i deimlo’n fwy grymus yn y byd modern.
Dywedodd Dewi, Rheolwr DCW “Nid fframwaith yn unig yw’r Isafswm Safon Byw Ddigidol – mae’n atgoffa bod cynhwysiant digidol yn rhan sylfaenol o fywyd bob dydd rŵan. Mae ein tîm yn gweld hynny bob tro rydyn ni’n gweithio gyda thrigolion. Gall helpu rhywun ddysgu defnyddio’r rhyngrwyd neu anfon neges ymddangos yn fach, ond mae’n aml yn newid bywyd. Mae’n ymwneud â rhoi’r offer i bobl deimlo’n rhan o’r byd eto”.