Neidiwch i’r prif gynnwys

SCVS a Llyfrgell Abertawe

Mae Cymunedau Digidol Cymru (CDC) wedi gweithio’n helaeth gyda Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe a Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) ers sawl blwyddyn.

Mae prosiect ‘Ein Cymdogaeth’ SCVS yn gwasanaethu pobl Abertawe drwy gynnig cymorth digidol i’r rhai sydd angen help ac arweiniad wrth ddefnyddio technoleg. Mae CDC wedi hyfforddi gwirfoddolwyr SCVS i ddod yn Bencampwyr Digidol.

Yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau digidol a gynigir gan Lyfrgelloedd Abertawe, cynhaliwyd sesiwn galw heibio wythnosol ar gyfer cymorth digidol yn Llyfrgell Ganolog Abertawe. Gyda staff Llyfrgelloedd Abertawe a gwirfoddolwyr SCVS yn arwain y sesiynau hyn, bu’r fenter mor llwyddiannus nes bod sesiynau tebyg bellach yn cael eu cynnig mewn sawl llyfrgell arall ar draws yr ardal.

Dywedodd Russell Workman, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yn Cymunedau Digidol Cymru:
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda dwy sefydliad mor gadarnhaol a gweithgar wrth wasanaethu eu cymuned drwy hyrwyddo cymorth cynhwysiant digidol. Mae partneriaeth Llyfrgelloedd Abertawe, SCVS, a Cymunedau Digidol Cymru wedi dangos yn wych y buddion o gydweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol effeithiol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”