Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Tai, Cyngor Sir Ynys Môn

logologo

Mentrau Ymgysylltu a Chymorth Digidol i Denantiaid

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein tenantiaid i ddatblygu eu sgiliau digidol a’u hyder trwy ystod o fentrau hygyrch a chynhwysol.

Panel Digidol i Denantiaid

Rydym yn cynnal Panel Digidol i Denantiaid, gan ddod â staff a thenantiaid ynghyd i arddangos, trafod a phrofi llwyfannau digidol newydd a datblygiadau gwefannau. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod adborth gan denantiaid yn ganolog i’n gwasanaethau digidol.

Ein prosiect cyfredol yw’r ffurflen gais am dai ar-lein, sy’n cael ei gweithio arni ar hyn o bryd mewn grŵp tasg a gorffen gan ein tenantiaid i gasglu mewnwelediadau gwerthfawr gan ddefnyddwyr cyn ei lansio.

Sesiynau Te, Theisen a Thechnoleg

I gefnogi tenantiaid gyda heriau digidol bob dydd, rydym yn cynnal sesiynau Te, Theisen a Thechnoleg—hyfforddiant anffurfiol lle gall tenantiaid dderbyn cymorth gydag unrhyw faterion technegol.

Rydym hefyd wedi cyflwyno fersiwn chwe wythnos o’r rhaglen hon mewn partneriaeth â landlordiaid cofrestredig eraill, gan ymestyn ein cyrhaeddiad i gefnogi mwy o bobl ar draws yr ynys ac rydym yn edrych i ailgychwyn hyn ar ôl yr haf.

Hyfforddiant a Chydnabyddiaeth Sgiliau Digidol

Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethon ni bartneru ag Age Cymru Gwynedd a Môn a Chymunedau Digidol Cymru i gyflwyno cwrs sgiliau digidol 12 wythnosgan ddefnyddio’r rhaglen Learn My Way. Gwellodd y fenter hon hyder digidol y cyfranogwyr yn sylweddol a chafodd ei chydnabod gyda gwobr TPAS Cymru.

Rydym hefyd yn buddsoddi yn eCymru, gan alluogi tenantiaid i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu digidol — o ddosbarthiadau iaith Gymraeg am ddim i sesiynau iechyd a lles a llawer mwy.

Er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad at dechnoleg, rydym yn cynnig cynllun benthyciadau tabled, gan ddarparu dyfeisiau am ddim i helpu tenantiaid i adeiladu eu sgiliau digidol. Yn olaf, mae ein Tîm Cynhwysiant Ariannol wedi cyflwyno cyfres o sesiynau digidol wedi’u targedu, gan ganolbwyntio ar feithrin hyder, diogelwch ar-lein, a darparu cefnogaeth un-i-un gyda hawliadau ar-lein Credyd Cynhwysol a’r porth Credyd Cynhwysol.

Ymwelwch â’n gwefan yma [agor mewn tab newydd]

Ymwelwch â’n tudalen Facebook yma [agor mewn tab newydd]