Roedd Cyfarfod Rhwydwaith DIAW ar 26.05.22 yn canolbwyntio ar Flaenoriaeth 3: Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol. Clywsom gan Gwyn Thomas de Chroustchoff o Big Issue, Catherine Naamani o Alltudion ar Waith, Geraint Turner o MAD Abertawe, Kath Deakin o Gymdeithas Tai Sir Fynwy, Emma Stone o Good Things Foundation a Lee Waters, AS Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Blaenoriaeth 3: Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Hoffem weld dull cydgysylltiedig ar draws sectorau sy’n cymryd camau i hyrwyddo datblygiad atebion cynaliadwy a chyd-gynhyrchu i dlodi data.
Mae Grŵp Llywio y Gynghrair yn mynd i gymryd camau i helpu i gyflawni canlyniadau ar gyfer y flaenoriaeth hon.
Mae costau byw cynyddol yn rhoi pwysau ychwanegol ar aelwydydd ledled Cymru. Bydd hyn yn cynyddu’r rhwystrau i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd y mae llawer o aelwydydd yn eu hwynebu.
Bydd DIAW yn rhan allweddol o unrhyw ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gymorth sydd eisoes ar gael i bobl sy’n profi tlodi data – fel ‘tariffau cymdeithasol’ ar gyfer band eang, y Banc Data Cenedlaethol, a chymorth ardal-benodol.
Mae DIAW eisiau gweithio gyda bargeinion y Ddinas a’r Rhanbarth ar y flaenoriaeth hon. Credwn fod achos cryf dros ganolbwyntio cyllid rhanbarthol ar atebion cynaliadwy fel y gall pawb fforddio cael mynediad i’r rhyngrwyd.
Mae rôl DIAW wrth ddatblygu Isafswm Safon Byw’n Ddigidol i Gymru yn uniongyrchol berthnasol i’r flaenoriaeth hon. Rydym am ddefnyddio dangosydd Isafswm y Safon Byw’n Ddigidol yn y dyfodol i archwilio ac eirioli dros gyllid a rhaglenni priodol i gefnogi’r rhai sy’n disgyn yn is na’r safon fel y gallant gyrraedd y safon.
Cyfarfod Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ar Flaenoriaeth 3
Mae gan Agenda’r Gynghrair ar gyfer Cynhwysiant Digidol ganlyniadau allweddol ar gyfer y flaenoriaeth hon:
Cydnabod bod mynediad i’r rhyngrwyd yn gyfleustod hanfodol yng Nghymru.
Darpariaeth gyhoeddus am ddim o WiFi a chymorth yn y gymuned ar gyfer cynhwysiant digidol ar draws pob rhan o Gymru.
Cydweithredu traws-sector yn digwydd i ymchwilio a dylunio atebion cynaliadwy i dlodi data.
Archwilio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i weld sut y gallai fod yn bosibl cynnwys tlodi data a chymorth digidol mewn ffordd fesuradwy.