Neidiwch i’r prif gynnwys

Blaenoriaeth 4: Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid

Gan weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a sectorau ehangach, bydd y Gynghrair o bartneriaethau Mynd Ar-lein yn ymdrechu i sicrhau bod yr agenda digidol yn cael ei thargedu at y bobl a’r lleoedd hynny sydd fwyaf tebygol o fod yn brin o sgiliau digidol sylfaenol.

Mae Grŵp Llywio y Gynghrair yn mynd i gymryd camau i helpu i gyflawni canlyniadau ar gyfer y flaenoriaeth hon.

Rydym yn gweithio gyda’r bargeinion Dinas/Rhanbarth ar y flaenoriaeth hon. Credwn fod achos cryf dros ganolbwyntio cyllid rhanbarthol ar y flaenoriaeth hon.

Byddwn yn defnyddio ein safle fel partner yn y gwaith cwmpasu ar gyfer yr Isafswm Safon Byw’n Ddigidol yn ogystal â’n swyddi presennol ar fyrddau a grwpiau llywio perthnasol i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir am y dangosydd Isafswm y Safon Byw’n Ddigidol i sicrhau ei fod yn cael ei ategu gan ddealltwriaeth briodol o lefelau sgiliau digidol ledled Cymru a mynediad i bob grŵp at gymorth priodol i’r rhai sydd wedi’u hallgau’n ddigidol oherwydd sgiliau digidol.

Byddwn yn cael gwell dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru o ba fframwaith sgiliau a ddefnyddir wrth fesur a oes gan bobl y sgiliau i gael eu hystyried yn ddigidol cynwysiedig yng Nghymru.

Rydym yn gweld manteision Archwiliad Sgiliau o weithwyr ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ac yn annog holl aelodau sector cyhoeddus y Gynghrair i ystyried gweithio gyda chymunedau Digidol Cymru i gynnal archwiliad sgiliau.

Bydd Rhwydwaith y Gynghrair yn meithrin cydweithio rhwng partneriaid i gefnogi ei gilydd a chreu gwell cysylltiadau rhwng cynlluniau benthyca/rhoddion dyfeisiau/data a darpariaeth sgiliau digidol.



 

Cyfarfod Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ar Flaenoriaeth 4

Ar 8 Rhagfyr, 2021 cyfarfu Rhwydwaith DIAW i drafod Blaenoriaeth 4. Clywsom gan yr Aelod Rhwydwaith Sam Ali o Gyngor Dinas Casnewydd am eu harchwiliad sgiliau a gwaith sgiliau digidol pwysig arall sy’n digwydd ar hyn o bryd. Clywsom hefyd gan Hannah Bacon o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) am brosiect Newis sydd yn edrych ar sgiliau digidol yn y trydydd sector.

Gwyliwch y recordiad
ciplun sgrin cyfarfod rhwydwaith o siaradwyr

Mae gan Agenda’r Gynghrair ar gyfer Cynhwysiant Digidol ganlyniadau allweddol ar gyfer y flaenoriaeth hon:

Hyfforddiant sgiliau digidol sylfaenol priodol a pharhaus a meithrin hyder ar gael i bob oedolyn sy’n chwilio am waith neu sydd mewn perygl o gael ei ddiswyddo.

Cynnal archwiliad sgiliau digidol o weithwyr ledled Cymru.

Busnesau a chyflogwyr ledled Cymru yn hyfforddi ac yn uwchsgilio eu gweithlu mewn sgiliau digidol craidd.

Strategaethau rhanbarthau dinesig yn ystyried sut y gallan nhw hyrwyddo a buddsoddi mewn sgiliau digidol sylfaenol.

Darllenwch ein Hagenda
front cover