Neidiwch i’r prif gynnwys

Cenhadon Cynhwysiant Digidol

Carl Griffiths, y Cennad Cynhwysiant Digidol, sy’n rhannu sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynorthwyo staff a’r cyhoedd i hybu eu sgiliau digidol, gan sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Default Text

Mae Carl yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gynorthwyo pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol i ddefnyddio gwasanaethau digidol. Mae’n cynorthwyo staff y cyngor a phobl ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn y gall technoleg ei gynnig, ac mae wedi arwain prosiectau amrywiol er mwyn helpu i gael pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol – yn enwedig pobl hŷn – ar-lein.

Roedd canolfannau cymunedol yn hanfodol i helpu pobl hŷn i gadw mewn cysylltiad yn ystod y pandemig. Sylwodd Carl nad oes gan lawer o bobl hŷn yng Nghastell-nedd Port Talbot fynediad i’r rhyngrwyd na thechnoleg, ond bod canolfannau cymunedol wedi’u galluogi i fynd ar-lein yn ogystal â mynd allan o’r tŷ hefyd.

Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Rwy’n ymweld â grwpiau cymunedol lleol a allai elwa ar ddefnyddio technoleg, fel grwpiau crefft, cyfarfodydd 60+, i egluro ystyr cynhwysiant digidol a sut y gall wella ansawdd bywyd.

Carl Griffiths

Quotation mark

Os oes gan rywun broblem gyda thechnoleg, mae ganddyn nhw rywun i’w ffonio’n awr. Ar hyn o bryd, mae gennym ni 42 o bartneriaid digidol yn cefnogi cydweithwyr ledled y cyngor ac yn rhannu eu gwybodaeth.

Carl Griffiths