Neidiwch i’r prif gynnwys

ClwydAlyn

Mae Louise Blackwell, cyn Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Chymdeithas Dai ClwydAlyn, yn esbonio sut mae technoleg ddigidol wedi gwella ansawdd bywyd y bobl fregus y mae ClwydAlyn yn eu cefnogi.

Default Text

Mae ClwydAlyn yn gymdeithas dai sy’n cefnogi ystod eang o bobl a’u hanghenion. Eu datganiad cenhadaeth yw ‘gyda’n gilydd i drechu tlodi’, ac mae’r sefydliad elusennol yn darparu llety anghenion cyffredinol, yn ogystal â rhedeg cynlluniau tai gwarchod, llochesi cysgu ar y stryd, cynlluniau byw â chymorth, cynlluniau gofal ychwanegol a chymorth i’r genhedlaeth hŷn.

Dywedodd Louise:

“Rydym yn gwasanaethu amrywiaeth eang o bobl yn cynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd,
pobl ifanc, pobl hyn, teuluoedd un rhiant a’r rheiny ag anghenion gofal ychwanegol.”

Er bod anghenion y bobl hŷn a bregus y mae ClwydAlyn yn eu cynorthwyo yn amrywio, mae eu gwaith tuag at gynhwysiant digidol wedi gwella ansawdd bywyd eu preswylwyr, beth bynnag fo’u cefndir.

Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Gan ei bod ni’n gweithio gyda charfan mor amrywiol o bobl, mae eu hanghenion yn amrywio. Mae rhai o’n preswylwyr yn ei chael hi’n anodd cael gwaith, ond gall defnyddio technoleg ddigidol eu helpu gyda hyn, p’un a yw’n mynychu cyfweliadau ar-lein neu’n llenwi ceisiadau am swyddi. Ond mae gan ein preswylwyr hyn fwy o ddiddordeb mewn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau ac i ddefnyddio technoleg er mwynhad.

Louise Blackwell

Quotation mark

Gall technoleg ddigidol fod yn ddychrynllyd i ddechrau a gall defnyddio jargon cymhleth hefyd rwystro pobl. Mae’n awgrymu ‘nad yw technoleg yn addas i mi.’ Mae technoleg ddigidol yn addas i bawb ac mae gallu defnyddio technoleg ddigidol yn amhrisiadwy. Mae’n bwysig bod yn gynhwysol.

Louise Blackwell