Neidiwch i’r prif gynnwys

Creu Menter

Mae Richard Chance o Creu Menter yn trafod eu rhaglen Hyrwyddwyr Digidol a sut y gall croesawu amrywiaeth gefnogi cynhwysiant digidol i bawb.

Default Text

Mae Creu Menter yn is-gwmni cymdeithas dai Cartrefi Conwy ac mae’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw i 3,800 o denantiaid Conwy. Mae’r fenter gymdeithasol yn cytundebu ac yn cyflogi eu tenantiaid eu hunain i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw, tra’n ailddosbarthu’r elw i’w Hacademi Creu Dyfodol.

Er mwyn cefnogi eu tenantiaid a’r gymuned ehangach, mae Creu Menter wedi sefydlu tîm o Hyrwyddwyr Digidol i hyfforddi a mentora pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol a gwasanaethau ar-lein. Mae’r gwirfoddolwyr hyn, sydd wedi’u hyfforddi gan Cymunedau Digidol Cymru, yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar amrywiaeth o bynciau.

Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Mae llawer o bobl yn rhoi prosiect at ei gilydd yn y ffordd maen nhw’n ei ragweld a dyna sut mae’n mynd, ond mae’n rhaid i chi gynnwys pawb. Does dim pwrpas cyflawni rhywbeth nad yw pobl yn mynd i ymgysylltu ag ef, felly mae angen dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng beth mae pobl ei eisiau a beth y gallwch ei gyflawni.

Tim Creu Dyfodol

Quotation mark

Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Siaradwch â sefydliadau eraill a chael gwybod beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio. Rydym yn parhau i siarad â sefydliadau eraill ac yn darganfod sut y gallwn wella pethau.

Tim Creu Dyfodol