Neidiwch i’r prif gynnwys

Fitbits yn helpu pobl hŷn yn Nhorfaen i weld budd ymarfer corff

Roedd elusen Age Connects Torfaen am annog defnyddwyr ei chanolfan ddydd i fod yn fwy egnïol. Gwnaeth Fitbits, a oedd ar fenthyg gan Gymunedau Digidol Cymru, ysbrydoli pobl i godi o'u cadeiriau a symud mwy – gan ysbrydoli ychydig o ymddygiad cystadleuol, hyd yn oed!

Pam?

Elusen ar gyfer pobl hŷn yw Age Connects Torfaen, a’i nod yw lleihau tlodi, unigrwydd ac arwahanu. Mae’n cynnal gweithgareddau ar gyfer pobl â phroblemau iechyd a symudedd yn ogystal â gwasanaeth dydd dementia arbenigol.

Roedd y rheolwr, Emma Wootten, eisoes yn cynnal dosbarthiadau TG bob wythnos ar gyfer defnyddwyr y ganolfan, yn ogystal â grŵp cerdded. Pan sylweddolodd fod rhai pobl yn mynd i’r ddwy sesiwn, gwelodd gyfle i gyfuno’r ddau weithgaredd drwy ddefnyddio’r Fitbits.

Sut?

Roedd Cymunedau Digidol Cymru yn gallu rhoi benthyg 10 Fitbit i’r sefydliad. Rhoddwyd y rhain i aelodau o’r grŵp cerdded nad oeddent yn dod i’r dosbarthiadau TG yn barod. Roedd Emma’n gobeithio y byddai eu galluogi i ddefnyddio technoleg mewn ffordd hwyliog, gan wybod bod cymorth wrth law drwy’r dosbarthiadau TG, yn rhoi’r hyder i bobl “roi cynnig arni” ac yn annog cystadleuaeth iach.

Rhoddwyd targed camau dyddiol i’r bobl a gafodd y Fitbits y gallent ei gyrraedd yn ystod y sesiynau yn y ganolfan ddydd.

Effaith

Yn flaenorol, roedd pobl yn tueddu i gymryd rhan mewn gweithgareddau tra’n eistedd mewn cadair. Fodd bynnag, unwaith y cyflwynwyd y Fitbits ac y dechreuodd y cleientiaid weld y nifer yn cynyddu, gwnaeth hyn eu hannog i sefyll i fyny er mwyn ennill mwy o gamau. Gwelodd Emma bod Fitbits yn cael eu defnyddio gan bobl â symudedd gwael, hyd yn oed, gan eu bod am gymryd rhan ac wedi’u mesmereiddio gan y ffordd y gallai dyfais o’r fath gadw cofnod o’u symudiadau.

Dywedodd Emma, “Gwelsom fod y Fitbits yn annog gwaith tîm; roedd yn ffordd wahanol i staff a gwirfoddolwyr ryngweithio â defnyddwyr y gwasanaeth. Roedd yn cynnig ffordd syml i ddefnyddwyr y gwasanaeth ddeall effaith ymarfer corff. Roedd hefyd yn cynnig ffordd hwyliog o gael pobl hŷn i wneud ymarfer corff, oherwydd y gallent weld y budd uniongyrchol.

“Dangosodd y sesiynau sut y gallai Fitbit chwarae rôl allweddol o ran gwella iechyd pobl hŷn. Hefyd, gwelsom fod y Fitbit yn ffordd dda o gynnal symudedd person hŷn ac mae ganddo’r potensial i wella eu rhyngweithio cymdeithasol, hyd yn oed.

“Yr unig sylw sydd gennym yw bod y sgriniau’n rhy fach i rai cleientiaid. Dywedodd llawer o gleientiaid ei bod yn anodd iddynt weld y sgriniau.”