Merched y Wawr
Mae Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, yn egluro sut aeth yr elusen ati i helpu eu haelodau hyn i gysylltu ag eraill yn ystod y pandemig, a sut y maent yn parhau i wneud hynny.

Mae Merched y Wawr yn sefydliad cymunedol ar gyfer menywod sy’n hyrwyddo materion menywod ynghyd â diwylliant, addysg a’r celfyddydau i fenywod sy’n siarad Cymraeg ledled Cymru. Cynhelir eu holl weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, a disgrifia’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Tegwen Morris, Merched y Wawr fel:
“Cyfle i fenywod ddod at ei gilydd i gynnal digwyddiadau diwylliannol ac addysgiadol ac i gymdeithasu.”
Pan ddechreuodd yr achosion COVID-19, dechreuodd yr elusen edrych ar sut y gallent ddefnyddio technoleg ddigidol i gysylltu o bell gyda’u haelodau. Fodd bynnag, roedd llawer o’u haelodau hŷn yn teimlo’u bod yn cael eu gadael ar ôl wedi i lawer o wasanaethau symud ar-lein.
Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]
Trodd llawer o bobl at dechnoleg am y tro cyntaf, gan hyd yn oed ddefnyddio ffôn cartref i ymuno â Zoom, a phrofodd hynny iddyn nhw unwaith eto nad oedd technoleg yn golygu bod rhaid i chi gael cyfrifiadur, Wi-Fi, iPad neu ffôn modern. Felly, mae’n bosibl, ond mewn camau bach iawn.
Tegwen Morris
Mae yna dlodi, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, lle mae rhai pobl yn dal i fod yn methu defnyddio technoleg am nad oes darpariaeth yn eu hardaloedd. Mae angen i lawer o bethau newid yn sylweddol er mwyn i bawb deimlo y gallan nhw fforddio defnyddio technoleg.
Tegwen Morris