Neidiwch i’r prif gynnwys

Merched Y Wawr yn cysylltu eu haelodau

Sefydliad gwirfoddol, anwleidyddol i ferched yng Nghymru yw Merched Y Wawr lle cynhelir yr holl weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn cyfnod clo Covid-19, roedd y rhan fwyaf o weithgareddau yn bersonol, ond rhoddwyd stop ar hynny o ganlyniad i’r cyfyngiadau. Gan boeni am yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar ei aelodau, camodd y sefydliad i’r adwy gan gynnig cymorth iddynt i ennill y sgiliau digidol i greu rhwydwaith ar-lein bywiog a chefnogol.

Cysylltodd trefnwyr Merched y Wawr ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin â Chymunedau Digidol Cymru am gefnogaeth. Benthycwyd dyfeisiau digidol iddynt gan y rhaglen yn ogystal â darparu hyfforddiant a chefnogaeth i rai o’r aelodau er mwyn iddynt ddefnyddio’r dyfeisiau a’r rhyngrwyd yn hyderus eu hunain, ond hefyd i ddod yn wirfoddolwyr digidol ac i helpu aelodau eraill.

O ganlyniad, roedd llawer o aelodau, rhai yn eu 90au, yn gallu defnyddio dyfeisiau digidol am y tro cyntaf. Dywed un aelod, “Wnes i erioed freuddwydio y gallai hyn fod yn gymaint o hwyl, mor ddefnyddiol ac nid mor anodd â hynny ar ôl i chi wybod sut mae gwneud.”

Meddai un o wirfoddolwyr digidol Merched Y Wawr, “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyflwyno technoleg i aelodau eraill wedi rhoi cymaint o foddhad. Rwy’n aml yn clywed sylwadau fel, ‘Diolch yn fawr, rwyf newydd weld fy wyrion am y tro cyntaf ers misoedd. Edrychaf ymlaen at eu gweld nawr yn rheolaidd ac mae hynny’n fy ngalluogi i ymdopi cymaint yn well â’r clo hwn.’ Mae llawer wedi dweud bod cyflwyno technoleg yn eu bywydau wedi eu helpu i ymdopi â’r cyfnod rhyfedd ac anodd hwn.

Mae unigrwydd wedi bod yn ffactor o bwys i lawer o’r aelodau yn ystod cyfnod clo Covid-19, felly mae gallu ymuno â grŵp trwy ddefnyddio Zoom neu gyfathrebu ar-lein wedi bod yn achubiaeth. Diolch i waith caled y gwirfoddolwyr digidol anhygoel hyn o Ferched y Wawr, roedd menywod o bob oed yn gallu cadw mewn cysylltiad a theimlo’n llai ynysig yn ystod y pandemig.

Quotation mark

Wnes i erioed freuddwydio y gallai hyn fod yn gymaint o hwyl, mor ddefnyddiol ac nid mor anodd â hynny ar ôl i chi wybod sut mae gwneud.

Aelod Merched Y Wawr