Partneriaeth Cael RhCT Ar-lein
Mae Scott Tandy, sy’n aelod o Bartneriaeth Cael RhCT Ar-lein yn esbonio pam mae hybiau cymunedol lleol – a’r bobl y tu ôl iddynt – yn hanfodol ar gyfer cael mwy o bobl ar-lein. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob chwarter er mwyn i bobl ddatblygu syniadau a chydweithio ar gyfer cynlluniau cynhwysiant digidol.

Sefydlwyd Cael RhCT Ar-lein (Rhondda Cynon Taf) gan Cymunedau Digidol Cymru i ddod â phartneriaid a grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gweithgareddau cynhwysiant digidol at ei gilydd. Cefnogir y prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’i strategaeth cynhwysiant digidol, ac mae tua 20 o sefydliadau yn rhan o’r bartneriaeth gyda phob un yn dod â’u mewnwelediadau a’u gwybodaeth unigryw.
Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]
Mae’n bwysig gwneud y cysylltiad hwnnw. Weithiau, wrth ddangos pethau newydd i bobl gallwch eu drysu, ond drwy gysylltu ac ymarfer gyda thechnoleg newydd efo’i gilydd, maent yn fwy tebygol o gofio’r wybodaeth honno.
Scott Tandy
Rydym yn gweithio’n galed i wneud i’n gwirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae dyfnder gwybodaeth ein Hyrwyddwyr Digidol yn anhygoel, ac mae’r arbenigedd yn amrywio o e-ddarllenwyr i ffotograffiaeth ddigidol. Mae’r prosiect yn gweithio’n dda iawn ac mae’r cyfan o’u herwydd nhw.
Scott Tandy