Neidiwch i’r prif gynnwys

Y Tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Jess Moss, o’r Tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hyn, yn esbonio pam mae uwchsgilio staff yn gam allweddol i helpu mwy o bobl hyn a bregus i fynd ar-lein.

Default Text

Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn cefnogi pobl hŷn sy’n byw gyda dementia a chyflyrau iechyd meddwl eraill. Mae’r tîm yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy’n cynnwys therapyddion galwedigaethol sy’n cefnogi pobl – yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty yn ogystal ag i fyw’n annibynnol yn y
gymuned.

Achosodd y pandemig i lawer o bobl fynd yn ynysig, ond i oedolion hŷn a’r rhai yn byw gyda dementia, fe roedd y sefyllfa’n arbennig o anodd. Roedd y grwpiau hyn eisoes wedi’u hallgáu’n ddigidol cyn dechrau COVID-19, ac yn ystod y pandemig ni allent ddibynnu ar dechnoleg i’w helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid.

Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Roedd Cymunedau Digidol Cymru yn deall y prosiect ac yn ein cynghori ar bopeth o becynnau Wi-Fi i’r mathau o dechnoleg a sut y gellir ei defnyddio yn y gymuned i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl neu ddementia.

Jess Moss

Quotation mark

Mae cymaint y gellir ei ganfod ar-lein, ac yn yr oes ohoni, ni ddylai neb orfod colli allan.

Jess Moss