Cefnogi pobl gyda’r sgiliau digidol i gael mynediad at Gredyd Pensiwn ar-lein
Recordiadau fideo: Cefnogi pobl gyda’r sgiliau digidol i gael mynediad at Gredyd Pensiwn ar-lein
Cynhyrchwyd y gyfres fideo hon gan gefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n amlinellu ystyriaethau allweddol ynglŷn â chefnogi pobl gyda’r sgiliau digidol sydd eu hangen i gael mynediad at wefan Credyd Pensiwn ac i gyflwyno cais am Gredyd Pensiwn. Mae’r gyfres fideo hon ar gyfer sefydliadau sydd mewn sefyllfa i gefnogi eraill gyda Chredyd Pensiwn.
Dogfen adnoddau
Ochr yn ochr â’r gyfres fideo hon, cynhyrchom adnodd sy’n amlinellu gwefannau allweddol y cyfeiriwyd atynt yn y gyfres fideo. Gellir ei lawrlwytho trwy’r ddolen isod:
Cefnogi pobl gyda’r sgiliau digidol i gael mynediad at Gredyd Pensiwn ar-lein (PDF)