Cymdeithas Tai ClwydAlyn
Rydym yn cydnabod y gall diffyg cynhwysiant digidol fod yn rhwystr i gyflogaeth, hawlio/manteisio ar fudd-daliadau, cael cysylltiad â theulu a ffrindiau a mynediad at wasanaethau allweddol. Rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan rai yn ein cymunedau offer i gael mynediad at y rhyngrwyd neu nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio technolegau digidol.
Ein nod yw mynd i’r afael â’r rhwystrau i gynhwysiant digidol fel bod mynediad at gyflogaeth yn cynyddu, ein bod yn gweld mwy o drigolion yn cael eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau ar-lein perthnasol, gan gynnwys pyrth gwasanaeth CC a Clwyd Alyn, i leihau unigrwydd/ynysu cymdeithasol oherwydd diffyg cysylltiadau digidol, ac i ddefnyddio technoleg ddigidol i helpu i gyflawni canlyniadau iechyd a lles.