Cymdeithas Tai Newydd
Yn Newydd rydym yn credu mewn cynhwysiant digidol – mae’r rhyngrwyd yn adnodd pwerus ar gyfer newid bywydau pobl. Os ydynt yn dewis gwneud hynny, rydym am annog pawb i gael mynediad i’r rhyngrwyd a phopeth sydd ganddo i’w gynnig. Rydym yn canolbwyntio ar neilltuo adnoddau i helpu’n tenantiaid a’r gymuned ehangach i gyrchu a defnyddio technolegau digidol er gwell.