Hafod
Mae Hafod wedi sefydlu tîm Swyddfa Trawsnewid Digidol ymroddedig. Cyfrifoldeb y tîm hwn yw cyflawni ein strategaeth trawsnewid digidol. O fewn y strategaeth mae thema bwrpasol yn canolbwyntio ar fabwysiadu digidol, sgiliau a dysgu. Nod prosiectau yn y thema hon yw darparu’r offer, y mynediad a’r datblygiad sydd eu hangen ar gydweithwyr yn Hafod i gofleidio ffyrdd digidol o weithio. Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi mewn rôl Arweinydd Mabwysiadu Digidol a Sgiliau pwrpasol parhaol yn y tîm, gan ddangos y pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar hyn ar draws y sefydliad. Wrth i ni ddatblygu atebion digidol newydd ac atebion system ar gyfer ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid, mae cynhwysiant digidol ar flaen y gad yn ein gweithgareddau cynllunio a chyflawni.