Neidiwch i’r prif gynnwys

Teitl y Cwrs: Helpu Ceiswyr Gwaith Ar-lein

Rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant penodol rydym yn ei ddarparu

Pwnc: Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Testun: Helpu Ceiswyr Gwaith Ar-lein
Nifer y sesiynau: 1 sesiwn 3 awr o hyd
Hyd y sesiwn: 3 awr

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn addas i staff a gwirfoddolwyr a hoffai feithrin dealltwriaeth well o sut y gellir helpu oedolion i fynd ar-lein ac i we-lywio’n ddiogel pan fyddant ar-lein. Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i sawl un ohonynt, gan danlinellu sut i gael gafael ar wybodaeth o ansawdd. Bydd y cwrs hefyd yn trafod arfer gorau i gadw’n ddiogel ar-lein, gan ddangos sut i roi help un i un a helpu oedolion fel rhan o grŵp. Byddwn yn ymgorffori’r defnydd o adnoddau digidol amrywiol i’ch helpu i greu corff o gymorth a gwybodaeth y gallwch ei rannu ag eraill. Er enghraifft, byddwn yn ymchwilio i adnoddau ar-lein sy’n nodi pa mor ddiogel yw eich cyfrinair.

Gofynion Mynediad

  • Rhaid i gyfranogwyr fod â sgiliau TG boddhaol.
  • Caiff y cwrs hwn ei gynnal yn ddigidol, felly mae’n hanfodol y gall cyfranogwyr gymryd rhan ynddo’n llawn.
  • Mae angen i gyfranogwyr allu defnyddio amrywiaeth o wefannau ac adnoddau digidol.

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd dysgwyr:

  1.  yn meithrin dealltwriaeth well o’r dirwedd ddigidol a’i heffeithiau ar y broses o geisio gwaith
  2.  yn deall effaith cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol ar y broses o geisio gwaith
  3. yn cael cyngor ar geisio gwaith ar-lein ac yn cael gwybod am yr adnoddau i’w defnyddio i wneud hynny

Tasgau Enghreifftiol

Bydd tasgau’n cynnwys defnyddio adnoddau a thechnegau digidol, y gellir eu defnyddio gyda defnyddwyr, i helpu oedolion i chwilio am waith ar-lein. Byddwn yn ystyried sut i ymgorffori’r defnydd o adnoddau digidol amrywiol i’ch helpu i greu corff o gymorth a gwybodaeth y gallwch ei rannu ag eraill. Er enghraifft, byddwn yn ystyried cyfres apiau Google o adnoddau ar-lein y gellir eu defnyddio i lunio CV ar-lein.