Neidiwch i’r prif gynnwys

Helpodd y rhyngrwyd fy nheulu i addasu i fywyd mewn gwlad newydd – stori Awder

I’r ceisiwr lloches Awder a’i deulu, mae’r rhyngrwyd wedi bod yn hanfodol wrth ddechrau bywyd newydd yma yn y DU.

Dyn hŷn yn yr ystafell gyfrifiaduron

Pan symudodd Awder o Irac i’r DU gyntaf, nid oedd yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl o’i fywyd newydd yng Nghymru. Nid oedd wedi clywed am Abertawe erioed o’r blaen, lle mae’n byw gyda’i deulu erbyn hyn, ond roedd mynd ar-lein yn golygu y gallai ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas a darganfod mwy am y ddinas y mae bellach yn ei galw’n gartref.

Ar y dechrau, roedd mynd ar-lein yn frwydr i Awder, ond gyda chymorth gan ei gymuned leol, mae wedi gallu defnyddio’r rhyngrwyd i helpu i addasu i fywyd mewn gwlad newydd.

Older man looking at smartphone

Yn hen law ar y byd digidol, roedd Awder yn gweithio ym maes caffael yn Irac, a hynny’n golygu ei fod yn treulio llawer o’i amser ar-lein yn chwilio am adnoddau a chynnyrch. Serch hynny, roedd yn dal i wynebu heriau o ran cael mynediad i’r rhyngrwyd mewn lleoliad newydd. Doedd e ddim yn ymwybodol o’r tariffau wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ar ei ffôn yn y DU, ac roedd y gwahanol becynnau sy’n cael eu cynnig gan wahanol ddarparwyr yn ei lethu. Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf fel ceisiwr lloches oedd trefnu cynllun talu ar gyfer band eang.

Esbonia Awder: “Roeddwn i’n dibynnu ar y rhyngrwyd ar fy ffôn ac roedd yn llyncu fy arian i. Roedd yn anhawster gwirioneddol i’n teulu sefydlu cynllun talu fel ein bod ni’n gallu cael band eang yn ein ty. Fel ceiswyr lloches, doedd gennym ni ddim hanes credyd, felly doedd dim un darparwr yn fodlon ein derbyn ni.”

Ar ôl symud i Abertawe, dechreuodd Awder wirfoddoli yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Yma, cafodd gymorth gan aelodau’r tîm i ddeall beth allai pob darparwr ei gynnig a’i helpu i oresgyn y rhwystrau yr oedd yn eu hwynebu i fynd ar-lein. Yn ffodus, roedd Swyddfa’r Post yn gallu cynnig pecyn iddyn nhw, fel eu bod yn gallu cael band eang ac arbed arian.

Yn ogystal â gweithio fel Swyddog Cyllid yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, mae Awder yn gweithio yn adran weinyddol Ysbyty Bay field. Mae gofyn iddo ddefnyddio’r rhyngrwyd bob dydd yn y ddwy rôl, ond mae’n mynd ar-lein am sawl rheswm, gan gynnwys ymddiddori yn ei hobïau, dilyn y newyddion a chadw mewn cysylltiad â’i deulu yn Irac.

Meddai Awder: “Rwy’n mwynhau pêl-droed, felly rwy’n defnyddio’r rhyngrwyd i ddilyn gwahanol gynghreiriau. Rwyf yn ei ddefnyddio i ddilyn y newyddion hefyd, fel fy mod i’n gwybod beth sy’n digwydd yn y DU ac yn Irac.

“Gan fy mod i’n gweithio’n rhan-amser mewn canolfan frechu hefyd, rwyf wedi bod yn defnyddio’r rhyngrwyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.”

Mae Awder yn ddiolchgar i’r rhyngrwyd am ei helpu i ddysgu mwy am y DU hefyd.

Meddai: “Mae’r rhyngrwyd wedi fy helpu i ddod i ddeall fy nghartref newydd, ond hefyd i ddeall ein sefyllfa ni fel ceiswyr lloches yn well. Mae wedi fy helpu i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen ar fy nheulu a minnau.”