Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Helen Northmore – Rheolwr Cyflawni Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru

Helen Northmore, sef y Rheolwr Cyflawni Rhaglen yn Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, sy’n rhoi cipolwg i ni ar fabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol, fel cleifion yn rheoli eu hiechyd ar-lein a dyfodiad meddygon sy’n ‘frodorion digidol’.

Ers pryd ydych chi wedi bod ynghlwm â chynhwysiant/iechyd digidol a pha swyddi ydych chi wedi’u cael?

Ymunais ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru fel Rheolwr Cyflawni Rhaglen ym mis Mawrth 2018. Mae fy rolau blaenorol wedi bod mewn sectorau eraill, ym meysydd rheoli prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, polisi a datblygu busnes, sydd oll yn sgiliau allweddol yn y rôl hon. Fy swydd yw dod â diwydiant, academia, y GIG a darparwyr gofal cymdeithasol ynghyd i gyflymu mabwysiadu technoleg ddigidol ym maes gofal iechyd yng Nghymru.

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn ystod eich amser yn y sector?

Yr wythnos diwethaf, trefnais ddau weithdy i amlygu ffyrdd haws o fabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol – un ar werthuso ac un ar gaffael. Roedd y diddordeb a ddangoswyd, lefel y drafodaeth a bodlonrwydd pob parti i drafod y rhwystrau a’r heriau mewn ffordd onest a didwyll yn ysbrydoliaeth. Mae’r ddau weithdy wedi arwain at ddatblygu gweithgorau er mwyn amlygu camau ac argymhellion ar sut i wella prosesau a systemau. Ni fydd fy eiliad mwyaf balch yn digwydd nes y rhoddir y camau hyn ar waith, ond rwy’n wirioneddol fodlon y bydd y broses hon yn cael effaith go iawn.

Yn eich barn chi, beth yw’r gyfrinach ar gyfer bod yn Arweinydd Digidol da?

Yn fy marn i, nid yw bod yn Arweinydd Digidol da yn golygu meddu ar wybodaeth neu sgiliau technegol, ond mae’n ymwneud â bod yn gyfforddus â newid, â chyflymder, ag ansicrwydd a risg. Mae sgiliau arwain da, ac adeiladu timau cryf wedi’u grymuso, hyd yn oed yn fwy hanfodol yn y byd digidol, yn sgil y newidiadau cyflym. Mae gwneud pethau newydd neu wneud pethau gyda thechnoleg newydd yn peri mwy o ansicrwydd a risg, ac mae Arweinydd Digidol da yn deall ac yn cydbwyso risg ac ansicrwydd yn erbyn y cyfle i drawsnewid. Yn olaf, mae Arweinydd Digidol da yn canolbwyntio ar anghenion y busnes neu’r prosiect neu’r broses, yn hytrach na’r hyn y gall y dechnoleg ei wneud. Nid yw’n ymwneud â sut i ddigideiddio proses bapur, ond pa wybodaeth sydd ei hangen, a phwy sydd angen ei gweld er mwyn datblygu’r ateb cywir.

Yn eich barn chi, beth fydd y newidiadau mwyaf ym maes cynhwysiant a/neu iechyd digidol dros y blynyddoedd nesaf?

Rydym yn dechrau gweld newid diwylliannol mawr ym maes gofal iechyd – mae’r meddygon cyntaf sy’n ‘Frodorion Digidol’ bellach ar y wardiau ac mewn practisau meddyg teulu. Mae lefel y disgwyliadau o ran beth allai/ddylai fod ar waith i’w helpu i wneud eu swyddi yn llawer uwch. Ac mae disgwyliadau’r cleifion yr un mor uchel – mae llawer o bobl eisiau’r opsiwn o reoli eu hiechyd ar-lein. Mae’r GIG yn ceisio dal i fyny â’r disgwyliadau hyn, ac rwy’n credu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, mae’r cynnydd hwnnw’n golygu llawer o waith y tu ôl i’r llenni, i osod 40 blynedd o hen feddalwedd a chyfarpar ynghyd, felly mae’n ymddangos ein bod ni’n bell ar ei hôl hi. Byddwn yn gweld trawsnewidiad radical yn yr ychydig flynyddoedd nesaf o ran sut gallwn gael mynediad i wasanaethau gofal iechyd, gweld a rhannu ein gwybodaeth, a chael ein grymuso i ofalu am ein hunain.

Yn eich barn chi, beth yw egwyddorion allweddol cynhwysiant a/neu iechyd digidol effeithiol?

Yn aml, rydym yn siarad am iechyd digidol fel cynnyrch neu wrthrych ond, mewn gwirionedd, mae’n ymwneud â sut gellir defnyddio data i ddatblygu cynhyrchion neu driniaethau newydd, sut gall data helpu i deilwra gwybodaeth neu driniaeth i’ch anghenion yn well a sut gellir defnyddio data i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau gofal iechyd yn well. Mae rhannu data a grymuso clinigwyr a chleifion i ddefnyddio data yn hanfodol – mae gennym gyfle i ddatblygu dull o ddarparu gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a byddai trosglwyddo ein prosesau a’n diwylliannau presennol i gyfrwng digidol yn gyfle mawr wedi’i golli.

I ddysgu mwy am Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, ewch i’r wefan ar lshubwales.com/cy/eidc.