Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Rhys Norris – Swyddog Ymyrraeth Gynnar ac Atal, Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf

Rhys Norris sy’n trafod ei gyfnod fel Swyddog Tai ac, yn fwy diweddar, fel Swyddog Ymyrraeth Gynnar ac Atal yng Ngrŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf, gan gynnwys datblygu ‘Dydd Gwener Digidol’ a’r Grŵp ‘Get RCT Online’ sydd wedi bod yn hanfodol wrth gynyddu nifer y bobl sydd ar-lein yn lleol a chynyddu eu hyder digidol – gan bwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad, hygyrchedd a rhannu er mwyn sicrhau bod cynhwysiant ac iechyd digidol yn ffynnu.

Ers pryd ydych chi wedi bod ynghlwm â chynhwysiant/iechyd digidol, a pha swyddi rydych chi wedi’u cael?

Ers dechrau gweithio gyda Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf yn 2014, rwyf wedi bod ynghlwm â chynhwysiant digidol yn ogystal â fy rolau fel Swyddog Tai a Swyddog Ymyrraeth Gynnar ac Atal ar hyn o bryd.

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn ystod eich amser yn y sector?

Bod yn rhan o’r fenter hynod lwyddiannus, ‘Dydd Gwener Digidol RhCT’, sef menter wych sy’n helpu pobl i ddechrau mynd ar-lein mewn sefyllfa anffurfiol a chyfeillgar. Mae [Dydd Gwener Digidol RhCT] yn bartneriaeth hyfryd rhwng sectorau gan gynnwys Cymunedau Digidol Cymru, Cymunedau am Waith, llyfrgelloedd, cymdeithasau tai, elusennau, yr Adran Waith a Phensiynau a llawer mwy. Mae ‘Dydd Gwener Digidol’ a’r Grŵp ‘Get RCT Online’ wedi bod yn hollbwysig wrth gynyddu faint o bobl sydd ar-lein yn lleol, a chynyddu eu hyder digidol.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Helpu cymaint o bobl â phosibl i gysylltu â’r we a chael profiad mor ystyrlon â phosibl o’r byd ar-lein.

Yn eich barn chi, beth yw’r gyfrinach ar gyfer bod yn Arweinydd Digidol da?

Gwrando yn astud. Mae hyn yn golygu gwrando ar y bobl rwy’n eu helpu i fynd ar-lein, deall eu hanawsterau a’u pryderon a chynnig cyngor ac arweiniad ystyrlon. Hefyd, mae’n golygu gwrando ar bartneriaid a chydweithwyr i ddysgu o’u gwybodaeth a’u profiad helaeth, naill ai wrth helpu rhywun ar Ddydd Gwener Digidol, neu wrth geisio gwella cynhwysiant digidol yn gyffredinol.

Yn eich barn chi, beth fydd y newidiadau mwyaf ym maes cynhwysiant ac/neu iechyd digidol yn y blynyddoedd nesaf?

Data

Mynediad at eich data eich hun, a’i reoli. Rydym ni fel unigolion yn gadael swm sylweddol o ddata trwy gydol y rhyngrwyd. Defnyddir y wybodaeth hon am resymau amrywiol, fel proffilio, casglu ystadegau a hysbysebu. Mae’r data rydym yn ei adael yn werthfawr yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn bersonol. Yn fy marn i, dros amser, bydd pobl yn gallu rheoli eu data yn well, ac nid yn unig y byddant yn gallu gweld eu data a’i ddeall yn hawdd, ond rheoli sut mae’n cael ei ddefnyddio hefyd, a gan bwy. Mae mynediad i ddata eisoes yn tyfu yn y sector iechyd, wrth i fwy a mwy o gleifion allu cael mynediad at eu cofnodion meddygol ar-lein.

Technoleg ddeallus

Mae’r maes technoleg ddeallus wedi ffrwydro yn y blynyddoedd diwethaf, yn sgil cyflwyno cynorthwywyr personol fel yr Amazon Echo a dyfeisiau Google Home. Mae gan y dyfeisiau hyn nodweddion lu, fel chwarae cerddoriaeth neu wneud galwadau ffôn a fideo i reoli technoleg ddeallus yn eich cartref, fel switsys golau neu thermostat. Mae’r dechnoleg yn newydd o hyd, a bydd yn cymryd amser i’w ddatblygu, ond mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd o ran sut gellir eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd. Enghreifftiau o hyn fyddai cysylltu â’ch meddyg teulu neu eich atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth.

Hefyd, mae technoleg wisgadwy ar gael, fel oriawr ddeallus a chyfrifwyr camau. Mae’r dyfeisiau hyn yn gallu cynnwys swm sylweddol o dechnoleg sydd nid yn unig yn cyfri camau neu’n gweithredu fel rheolyddion ar gyfer eich ffôn clyfar, ond gallant hefyd fonitro cyfradd y galon, sy’n gallu rhoi gwybod i’r gwasanaethau meddygol os cewch unrhyw gymhlethdodau. Mae’r dechnoleg wisgadwy hefyd yn gallu cysylltu â dyfeisiau yn y cartref, sy’n gallu cofnodi eich gwybodaeth hanfodol, fel lefelau inswlin neu gapasiti’r ysgyfaint, y gellir ei hadrodd yn uniongyrchol i’ch darparwr iechyd er mwyn monitro eich iechyd ac addasu eich triniaeth os oes angen. Mae’n faes diddorol dros ben, a gall drawsnewid y ffordd rydym yn deall ein hiechyd ein hun, a gwneud addasiadau i wella ein disgwyliad oes ac ansawdd ein bywyd.

Cefnogwyd twf ffonau clyfar gan ddatblygiad apiau. Yn ddiweddar, mae apiau wedi dechrau esblygu, yn enwedig mewn perthynas â thwf technoleg wisgadwy, lle mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o’u lles corfforol a meddyliol. Mae sawl ap ar gael sy’n helpu pobl i olrhain eu hiechyd, gan gynnwys; monitro deiet, tymer a ffrwythlondeb , yn ogystal ag agweddau eraill. Mae’r apiau’n golygu bod ffonau clyfar yn troi’n offer sy’n cynorthwyo lles, yn hytrach na chyfrifiadur yn eich poced.

Biotechnoleg

Mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud ym maes biotechnoleg, lle mae cwmnïau technoleg yn adeiladu dyfeisiau sy’n gwella galluoedd pobl, fel; breichiau a choesau robotig a sgerbydau allanol a reolir gan y meddwl, neu ddyfeisiau rhithwir a realiti estynedig sy’n helpu pobl sydd â nam ar eu golwg i weld. Gobeithio y bydd y datblygiadau technolegol hyn yn hygyrch i bawb y mae arnynt eu hangen yn y dyfodol.

Yn eich barn chi, beth yw egwyddorion allweddol cynhwysiant ac iechyd digidol effeithiol?

Cyfranogiad

Cynnwys y cyhoedd mewn datblygiadau technolegol. Dylai technoleg newydd gynnwys defnyddwyr trwy gydol ei datblygiad er mwyn sicrhau ei bod yn ymarferol ac yn fwy tebygol o gael ei defnyddio.

Cynwysoldeb

Un o’r pethau sydd wedi fy ysbrydoli fwyaf o ran y twf mewn technoleg newydd yw sut mae wedi croesawu cynwysoldeb, gan helpu grwpiau y byddant wedi’u hallgáu fel arall i gymryd rhan yn y gymdeithas. Rhai enghreifftiau gwych yw nodweddion hygyrchedd ar ffonau clyfar a llechi cyfrifiadurol, yn ogystal â’r rhyngrwyd yn rhoi llais a chysylltiadau i’r rheiny fyddai’n wynebu cyfyngiadau yn y byd corfforol fel arall. Fel y nodwyd, mae gwaith cyffrous yn cael ei wneud ym maes biotechnoleg i helpu pobl ag anableddau i ddefnyddio technoleg i ennill neu adennill galluoedd corfforol.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Mae digonedd o sefydliadau a gwasanaethau mewn cymunedau yn agored i weithio gyda darparwyr iechyd a datblygwyr er mwyn cynnig mewnwelediad a gwybodaeth, yn ogystal â threialu technoleg newydd. Mae’n bwysig bod cwmnïau technoleg bach a mawr yn croesawu’r gwerth y gall y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ei gynnig. Mae hyn hefyd yn cynnwys pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd yn ein cymunedau, yn enwedig gwerth y gwahanol genedlaethau sy’n cefnogi ei gilydd. Ein cyfrifoldeb ni yw helpu’n gilydd, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Dod â phobl at ei gilydd yw’r ffordd orau o rannu gwybodaeth a phrofiadau i helpu i wella bywydau pawb.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl mewn angen rhag cael mynediad i ddarpariaethau cynhwysiant a/neu iechyd digidol?

Tlodi

Fforddiadwyedd yw’r rhwystr mwyaf o hyd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd wedi’u hallgáu yn ddigidol. Yr hyn sy’n eironig yw y bydd pobl yn arbed mwy o arian trwy fod ar-lein na chostau’r caledwedd a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Gallwn wneud llawer mwy i helpu pobl i fynd ar y rhyngrwyd yn fforddiadwy.

Sgiliau

Gall y rhyngrwyd a thechnoleg godi ofn ar rywun os nad yw wedi’i ddefnyddio o’r blaen. Mae llawer o waith i’w wneud i wella sgiliau a chynyddu hyder pobl ar-lein, ac mae Dydd Gwener Digidol RhCT yn enghraifft wych o helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf.

Perthnasedd

Wrth i dechnoleg a gwasanaethau iechyd ddatblygu, bydd angen iddyn nhw fod yn berthnasol i fywydau pob dydd pobl, a rhaid iddynt fod yn well na’r hyn sy’n arferol. Hefyd, mae’n bwysig cofio bod rhaid i ddarpariaeth gwasanaethau barhau i fod ar gael i’r rheiny nad ydynt yn gallu mynd ar-lein neu nad ydynt eisiau mynd ar-lein.

Diogelwch

Yn aml, rwy’n gweld gwrthwynebiad i fynd ar-lein oherwydd mae rhai pobl yn ei ystyried yn beryglus neu’n fygythiol. Mae llawer i’w wneud o hyd, nid yn unig i ddangos pa mor wych a defnyddiol yw’r rhyngrwyd ond, hefyd, i wella gwydnwch pobl a’u gwybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein.

Sut dylai trawsnewidiad digidol gofal iechyd edrych?

Naturiol – Dylid gweld trawsnewidiad digidol gofal iechyd fel rhan naturiol o fywydau pob dydd pobl.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau tai a chymorth Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf, ewch i: www.cynon-taf.org.uk/welcome-to-cynon-taf-housing-association.