Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Karen Jones – Prif Weithredwr Cynorthwyol a Phrif Swyddog Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae Karen yn siarad am ei hamser yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, yn ysgrifennu eu Strategaeth Ddigidol gyntaf a dod yn Brif Swyddog Digidol. Mae hi'n trafod gwaith cynhwysiant digidol ar y BGC lleol ac yn helpu i frwydro yn erbyn achosion allgau digidol, gan gynnwys; cost, sgiliau a hyder.

Ers faint ydych chi wedi bod yn rhan o’r maes iechyd digidol/cynhwysiant?

Rwyf wedi bod yn rhan o’r gwaith ers 2015 pan ysgrifennais strategaeth ddigidol gyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn ddiweddar rwyf wedi adfywio’r strategaeth ac wedi derbyn statws prif swyddog digidol yn y Cyngor, law yn llaw ag ystod eang o gyfrifoldebau eraill sydd ynghlwm wrth rôl y Prif Weithredwr Cynorthwyol. Rwyf hefyd yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ac yn arwain gwaith y Bwrdd ar gynhwysiant digidol.

Beth sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi yn eich cyfnod yn y sector?

Gallu rhoi mwy o flaenoriaeth i gynhwysiant digidol ledled fy sefydliad ond hefyd o fewn y trydydd sector lleol ac yn ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Rydym i gyd yn siarad yn frwd am gynhwysiant digidol a rhoi pethau ymarferol ar waith i helpu mwy o bobl i gymryd rhan yn y byd digidol.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Hoffwn weld pob sefydliad yn gwneud ymrwymiad yn lleol i uwchsgilio eu gweithleoedd eu hunain, gan gynnwys unrhyw wirfoddolwyr ac ystyried o ddifrif pwy sy’n derbyn y gwasanaethau digidol y maen nhw’n eu creu. Rwy’n dyheu i bob strategaeth ddigidol gynnwys amcan clir i fynd i’r afael ag allgau digidol.

Yn eich barn chi, beth yw’r allwedd i fod yn Arweinydd Digidol da?

Credaf [i fod yn Arweinydd Digidol da] fod angen cymryd cyfrifoldeb i oleuo’ch hun am y cyfleoedd a’r heriau sydd ar gael ac i ymgysylltu ag eraill i wneud pethau’n bosibl.

Beth ydych chi’n ei feddwl fydd y newidiadau mwyaf ym maes iechyd a/neu gynhwysiant digidol yn y blynyddoedd nesaf?

Mae’n siŵr y byddwn yn symud y tu hwnt i roi gwybodaeth a gwasanaethau trafodion ar-lein a gweld newid sylweddol yn y ffordd rydym yn mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, peiriannau sy’n dysgu, roboteg ac ati. Yn ogystal â sicrhau mynediad i bobl at wasanaethau os ydym ni’n llwyddo i wneud pethau’n iawn, bydd angen i ni hefyd dreulio digon o amser yn trafod moeseg a risgiau symud i’r cyfeiriad hwn. Dydw i ddim yn meddwl ein bod yn trafod hyn ar hyn o bryd.

Beth yw egwyddorion allweddol iechyd a/neu gynhwysiant digidol effeithiol yn eich barn chi?

O’n safbwynt ni, er bod gwasanaethau ar-lein yn gwbl briodol ar gyfer ystod eang o bethau, gyda phethau eraill nid oes unrhyw beth a all gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn defnyddio’r sianeli priodol ar gyfer y bobl briodol ar yr adeg briodol. Tra’n sicrhau bod pobl yn cael digon o gyfleoedd, mae hefyd angen i ni addysgu pobl am y risgiau a rhoi’r modd iddynt amddiffyn eu hunain ar-lein. Mae’n rhaid i wasanaethau fod ar gael i bawb hefyd ac felly mae’n hollbwysig cael cynllun da, canolbwyntio ar y defnyddwyr, chwilio am adborth parhaus a gwell profiad y defnyddiwr terfynol. Mae’n rhaid i drefniadau fod yn addas ar gyfer dyfeisiau hefyd – rydym bellach yn byw mewn byd symudol ac mae pobl am gael mynediad i bethau ar ddyfeisiau amrywiol drwy’r adeg.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf i’r rhai mewn angen rhag cael mynediad at ddarpariaethau iechyd a/neu gynhwysiant digidol?

Ar hyn o bryd, mae cysylltedd yn rhwystr sy’n lleihau, ac mae’r rhwystrau ar hyn o bryd yn ymwneud mwy â chostau, sgiliau a hyder.

Sut beth yw trawsnewid gofal iechyd yn ddigidol?

Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn gan mai prif gwsmeriaid gwasanaethau iechyd yw’r garfan o bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu hallgáu yn ddigidol. Gallaf weld yn barod sut y gallai clinigwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd weld trawsnewid digidol yn rhywbeth dymunol, ond mae profiad blaenorol o’r ffordd y mae rhywfaint o hyn wedi’i wneud ym maes gofal sylfaenol yn peri pryder mawr i mi ynghylch y mynediad sydd gan rai. Credaf fod angen i’r gwasanaeth iechyd weithio’n ofalus gyda chleifion wrth gynllunio a newid gwasanaeth er mwyn sicrhau nad yw’r bobl fwyaf sâl ac agored i niwed yn wynebu rhwystrau sylweddol i ofal iechyd. Os gallwn wneud hyn yn iawn gallem sicrhau cymaint o fanteision ond mae’n rhaid i ni sylweddoli y bydd angen cyswllt wyneb yn wyneb ar rai o hyd.

Am ragor o wybodaeth am Strategaeth Ddigidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (2019-2022), ewch i: https://democracy.npt.gov.uk/documents/s40957/Appendix%201%20-%20Cabinet%20-%201st%20August.pdf