Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae ymgyrchoedd yn amlygu mis Hydref 2019 fel y cyfnod i fynd ar-lein!

Mae mis Hydref yn mynd i fod yn fis arbennig o brysur ar gyfer tîm Cymunedau Digidol Cymru, gan ein bod ni’n gysylltiedig â dwy ymgyrch sy’n dangos gwerth a pherthnasedd cynhwysiant digidol mewn bywyd bob dydd.

Cynhelir Wythnos Llyfrgelloedd rhwng 7 ac 12 Hydref. Eleni, bydd yn dathlu ac archwilio sut mae llyfrgelloedd yn ymgysylltu â chymunedau trwy dechnoleg, meithrin sgiliau digidol a hyder, annog cyfranogiad a chynhwysiant digidol, cefnogi iechyd, lles ac addysgu, a chefnogi busnesau a mentrau lleol.

Mae nifer o lyfrgelloedd Cymru wedi llofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol i ddangos eu hymroddiad i hyrwyddo cynhwysiad digidol a darparu cyfleoedd i bobl gynyddu eu sgiliau ar-lein. Mae llyfrgelloedd hefyd wedi bod yn lleoedd lle mae gwirfoddolwyr digidol wedi helpu pobl eraill i wneud mwy gyda chyfrifiaduron, ffonau clyfar a llechi, mewn sesiynau Dydd Gwener Digidol rheolaidd yn aml. Gwiriwch Twitter yn ystod yr wythnos ar gyfer  @librariesweek a #WythnosLlyfrgelloedd.

Wythnos Llyfrgelloedd, 7-12 Hydref 2019: Dathlu llyfrgelloedd yn y byd digidol

Mae 5.3 miliwn o bobl erioed wedi bod ar-lein yn y DU, ac mae 11.9 miliwn o bobl heb y sgiliau digidol hanfodol i lywio bywyd a gwaith.

Yn ystod Wythnos Ewch Ar-lein 2019 (14 – 20 Hydref), bydd partneriaid, gwirfoddolwyr a chymunedau’n dod at ei gilydd i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn y byd digidol. Cynhelir miloedd o ddigwyddiadau mewn cannoedd o gymunedau, a fydd yn darparu ffordd gyfeillgar a chroesawgar i helpu pobl gymryd y cam nesaf ar eu taith ar-lein, gan adeiladu sgiliau a gwella bywydau ar hyd y ffordd.

Yn rhan o’n hymglymiad, bydd ein tîm yn rhannu eu prif awgrymiadau ar gyfer bod ar-lein. Byddwn yn hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir yng Nghymru yn ystod Wythnos Ewch Ar-lein, ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau hyfforddi.

Llun o ddynes ar ei ffôn ac yn gwenu gyda'r capsiwn: 'Rwy'n rhydd o ddyled ac mewn rheolaeth o fy arian'