Neidiwch i’r prif gynnwys

Zoe Amar: Mae newid digidol yma i aros

Mae’r arloeswraig ddigidol, Zoe Amar, yn siarad â ni am y newidiadau technolegol cyfredol a’r camau gorau i’r sector eu cymryd er mwyn bod ar y blaen, wrth i ymddygiad pobl esblygu’n gyson. Wrth edrych ar ffyrdd y gall elusennau gydweithio ac addasu ar gyfer y dirwedd ddigidol gyfnewidiol, mae hi’n dweud mai’r ateb yw mynd ati ar y cyd i sefydlu sut beth yw llwyddiant digidol ac mae’n trafod datblygiad y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau.

Allwch chi ddychmygu bywyd heb eich ffôn? Yn ôl Ofcom, mae 50% o oedolion bellach yn dweud y bydden nhw’n gweld colli eu ffôn symudol fwy na’u dyfeisiau eraill, gydag 87% o aelwydydd yn defnyddio’r rhyngrwyd. O gwmpas y byd, mae defnyddwyr y rhyngrwyd ar gyfartaledd yn treulio 6 awr a 42 munud ar-lein bob dydd. Rydyn ni’n byw drwy newidiadau technolegol enfawr, a fydd yn trawsnewid ein cymdeithas a’r modd y byddwn yn gweithio mewn ffyrdd na allwn ond dechrau eu dychmygu. Bydd yn rhaid i sefydliadau ddatblygu er mwyn cadw i fyny gyda’r modd y mae’r byd digidol yn newid ymddygiad pobl.

Mae gennym ni ddewis i nofio gyda’r llif, neu yn ei erbyn. Fel y dywedodd un prif swyddog gweithredol doeth wrthyf unwaith, “Mae modd rheoli newid digidol, a does dim rhaid i chi feddu ar yr atebion i gyd.” Eto, yn yr un ffordd na fyddech chi’n cychwyn ar siwrnai hir heb edrych ar fap yn gyntaf, mae’n rhaid i bawb ddeall i ble maen nhw’n mynd a sut mae cyrraedd yno. Wrth wneud ein dewisiadau nawr, mae’n allweddol bod sefydliadau yn canolbwyntio eu hymdrechion yn y maes digidol.

Y llynedd, daeth y sector elusennol at ei gilydd i wynebu’r her hon. I wneud hynny, roedd angen ateb un cwestiwn pwysig: sut olwg sydd ar lwyddiant digidol? Mewn ymateb i hynny, mae’r sector wedi datblygu ei ganllawiau ei hun, y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau, a grëwyd gan grŵp o sefydliadau yn cynnwys y Comisiwn Elusennau, Swyddfa Cymdeithas Sifil (OCS), Tasglu Cyflawni Mentrau Digidol yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), ACEVO, Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, a’r Sefydliad Co-op. Mae’r Cod eisoes yn cael ei ddefnyddio gan elusennau ledled y DU, yn cynnwys; NSPCC, World Vision UK a TLC: Talk, Listen, Change.

Er bod y Cod wedi’i fwriadu ar gyfer elusennau a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, bydd o ddefnydd i sefydliadau eraill hefyd, yn cynnwys mentrau cydweithredol a busnesau eraill yn y sector, felly rydyn ni’n eich annog i edrych arno. Yn ddiweddar, mae’r Cod wedi sicrhau cyllid ychwanegol drwy Grŵp Bancio Lloyds a‘r Sefydliad Co-op, a chefnogwyr newydd – y grŵp rhwydweithio Charity IT Leaders a chwmni technoleg Cisco. Eleni, mae’r Cod hefyd yn cael ei feithrin gan CAST ac rydym wedi cyffroi’n arw gan gynlluniau sydd ar droed.

Rydw i’n ddigon ffodus i gadeirio’r Cod ar y cyd â’m swydd lawn-amser yn rhedeg menter gymdeithasol sy’n cynorthwyo elusennau a sefydliadau dielw eraill i gyflawni newidiadau digidol yn llwyddiannus. Ar ôl gweithio gyda nifer o sefydliadau gwahanol, sydd i gyd wedi’u sefydlu at ddibenion cymdeithasol, rydw i’n gwybod ein bod ni’n rhannu’r un her o fyw drwy gyfnod ansicr a llywio drwy’r oes ddigidol ar yr un pryd. Mae’r byd digidol yn gyfle go iawn i uno ein cymunedau er mwyn cynhyrchu ffynonellau incwm newydd ac i wella sgiliau’r bobl rydyn ni’n cydweithio â nhw.

Mae newid technolegol yn digwydd yn gyflym, ac os ydyn ni am wneud y gorau o’r cyfle, nawr yw’r amser i wneud hynny.

Edrychwch ar y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau

Zoe Amar yw Cadeirydd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau a Chyfarwyddwraig Zoe Amar Digital.