Neidiwch i’r prif gynnwys

Cartrefi gofal yn elwa o gyflwyno dyfeisiau digidol

Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa wrth i ddyfeisiau digidol gael eu danfon iddynt trwy gynllun gan Lywodraeth Cymru i helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ac i gynorthwyo ag ymgyngoriadau meddygol trwy gyfrwng fideo.

Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa wrth i ddyfeisiau digidol gael eu danfon iddynt trwy gynllun gan Lywodraeth Cymru i helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ac i gynorthwyo ag ymgyngoriadau meddygol trwy gyfrwng fideo.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £800,000 o gyllid i gyflenwi dyfeisiau digidol i ofalwyr, cartrefi gofal a hosbisau.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Cymunedau Digidol Cymru: Rhaglen Hyder, Iechyd a Lles Digidol, a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, wedi bod yn dosbarthu’r dyfeisiau i gartrefi gofal ym mhob rhan o Gymru, ac mae wrthi’n darparu cymorth a hyfforddiant o bell i weithwyr allweddol ar sut i ddefnyddio a gweithredu’r dechnoleg gyda phobl yn eu gofal.

Hyd yma, mae 745 o ddyfeisiau* wedi’u dosbarthu i 401 o gartrefi gofal* yn rhan o’r cynllun, ac mae 313 o gartrefi gofal wedi cael hyfforddiant staff ar Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar bob un ohonom, ac mae wedi bod yn arbennig o heriol i bobl hŷn a’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal nad ydynt yn gallu gweld ffrindiau ac anwyliaid.

“Mae technoleg wedi chwarae rhan allweddol dros yr wythnosau diwethaf wrth helpu i gadw pobl mewn cysylltiad, a galluogi ymgyngoriadau meddygol i gael eu cynnal heb yr angen am ymweliadau â’r meddyg teulu neu’r ysbyty.  Rwy’n falch o weld bod dyfeisiau digidol wedi bod yn cyrraedd cartrefi gofal, gan wneud pethau’n haws i staff a phreswylwyr.

“Rydym wedi gweld technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio lawer mwy ledled y GIG a gofal cymdeithasol dros yr ychydig fisoedd diwethaf o ganlyniad i’r pandemig.  Bydd llawer o’r newidiadau gyda ni ar gyfer y dyfodol, gan alluogi pobl i aros yn gysylltiedig a gwella mynediad at wasanaethau.”

Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:

“Mae cyflymder y chwyldro digidol ym maes iechyd a gofal wedi cynyddu’n aruthrol o ganlyniad i’r argyfwng hwn. Gwyddom o brofiad y gall sgiliau digidol drawsnewid bywydau, ac mae darparu dyfeisiau yn rhan bwysig o wella cynhwysiant digidol ynghyd â chysylltedd da.

“Mae ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru wedi gallu darparu cymorth a hyfforddiant i staff fel bod ganddynt yr hyder, yr wybodaeth, a’r sgiliau i ddefnyddio technoleg eu hunain ac i helpu eraill i wneud yr un peth. Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr yn GIG Cymru a TEC Cymru i helpu i wneud y gwahaniaeth hwn.”

Straeon llwyddiant

Cartref Preswyl Millbrook, y Coed-duon

Cartref gofal sydd wedi cael dyfeisiau digidol trwy’r cynllun benthyca llechi yw Cartref Preswyl Millbrook yn y Coed-duon. Mae’r dyfeisiau wedi galluogi’r cartref i gael ymgyngoriadau fideo â meddyg teulu.

Dywedodd meddyg teulu lleol y cartref preswyl, Dr Rizwan Hussain:

“Mae ymgyngoriadau fideo o bell wedi dod yn hanfodol yn gyflym iawn o ran rheoli cleifion cartrefi gofal yn ystod y pandemig Covid-19.

“Maent wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer asesu cleifion ar y cyd â mesuriadau ffisiolegol a gyflawnir yn y cartref, yn ogystal ag ar gyfer asesu briwiau ar y croen. Mae ymgyngoriadau fideo wedi helpu o ran dechrau triniaethau’n brydlon a lleihau derbyniadau i’r ysbyty.

“Edrychaf ymlaen at gael sgyrsiau tair ffordd â chleifion cartrefi gofal a’u teuluoedd, a allai fod mewn lleoliad gwahanol, yn y dyfodol.”

 

Cartref Gofal Pen y Bont, Abertyleri

Cartref gofal sydd wedi elwa o’r dechnoleg newydd yw cartref gofal Pen y Bont yn Abertyleri, Blaenau Gwent.  Llwyddodd y preswylydd Lillian Morgan, 84, i weld ei hwyres yn Awstralia am y tro cyntaf trwy ddefnyddio’r ddyfais a fenthycwyd i gynnal galwad fideo.

Mae Amanda Reed, Cydlynydd Gweithgareddau yng Nghartref Gofal Pen y bont, wedi bod yn gweithio yn y cartref gofal ers 10 mlynedd, ac mae wedi rhyfeddu at yr effaith y mae’r dyfeisiau digidol wedi’i chael ar ei phreswylwyr mewn cyfnod mor fyr. Dywedodd:

“Cyn cael benthyg y tabledi, dim ond trwy apiau fel Messenger a WhatsApp yr oedd ein preswylwyr hŷn yn gallu cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau. Er bod hyn o fudd mawr i’r mwyafrif ohonynt, roedd rhai preswylwyr â golwg gwael yn ei chael yn rhy anodd edrych ar y sgrin fach, neu nid oedd ganddynt y feddalwedd ddiweddaraf i lawrlwytho’r apiau. Mae cael benthyg y ddwy lechen hyn a chymorth ychwanegol gan Gymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gwbl allweddol i’r preswylwyr a’u hanwyliaid, gan eu helpu i gadw cysylltiad gwell yn ystod yr amser llawn straen hwn.

“Rydym hefyd wedi dechrau defnyddio’r dyfeisiau llechen i feddwl am weithgareddau dyddiol newydd yn y cartref, er enghraifft edrych ar hen luniau o’n hardal ac edrych ar atyniadau lleol i ymweld â nhw yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, defnyddiom y llechi i ddathlu pen-blwydd Syr Tom Jones yn 80. Cawsom rith-gwis amdano, a buom yn gwylio ei fideos cerddoriaeth amrywiol er mwyn i ni weld sut y mae wedi newid dros y blynyddoedd. Ni fyddai’r math hwn o weithgaredd wedi bod yn bosibl o’r blaen.”

 

Cartref Nyrsio Glan Rhos, Brynsiencyn, Ynys Môn

Yn ystod y pandemig hwn, mae cartref nyrsio Glan Rhos yn Ynys Môn wedi gorfod dibynnu ar dechnoleg ddigidol er mwyn cynnal lles ei breswylwyr.

Dywedodd Helen Omber Williams o gartref nyrsio Glan Rhos:

“Mae’r cynllun benthyca llechi wedi galluogi ein staff i gysylltu mwy o’r preswylwyr â’u teuluoedd, sy’n cael effaith hyfryd. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydym wedi cynnal cyngherddau byw o’r lolfa trwy gyfrwng fideo ar gyfer ffrindiau a theulu, ac wedi cael galwadau fideo rheolaidd ag anwyliaid.

“Nid yw meddyg teulu lleol y cartref preswyl yn dod i mewn i’r cartref ar hyn o bryd, ac yn hytrach mae’n cynnal ymgyngoriadau cyswllt fideo rheolaidd â’r preswylwyr a’n nyrsys ar y safle.”

Dyma rai sylwadau pellach y mae’r cartref nyrsio wedi’u cael gan deuluoedd y preswylwyr ynghylch effaith y dechnoleg newydd sydd wedi cael ei chyflwyno i’r cartref:

“Mae’n golygu cymaint fy mod yn gallu gweld fy mam ac mae gallu siarad â hi yn anhygoel”.

“Ar ôl methu â siarad â’m tad cyhyd, rydw i wrth fy modd”.

“Rydych i gyd yn anhygoel yng Nglan Rhos, rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi gallu gweld fy mam”.

“Ar ôl wythnos wael, mae siarad â’m mam yn golygu gymaint. Rydw i mor ddiolchgar”.

“Dad yn edrych mor dda ac effro heddiw. Mae’n rhaid ei fod wedi mwynhau’r canu’n fawr. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch”.