Neidiwch i’r prif gynnwys

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 : Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein

Mae ymgyrch 2022, sef ‘Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein’, yn awyddus i helpu plant, pobl ifanc a rhieni i ddeall yn well bwysigrwydd ‘chwarae dy ran’ mewn hybu defnydd cadarnhaol o fannau cydweithio ar-lein.

#SIDCymru

Beth yw Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel?

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu yn flynyddol ar 8fed o Chwefror 2022, sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth dros ddefnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnegol ddigidol i blant a phobl ifanc. Mae’r digwyddiad yn cael ei gydlynu ym Mhrydain gan ‘UK Safer Internet Centre’. Yn ystod y digwyddiad y llynedd, yn ôl ystadegau, llwyddwyd i gyrraedd 51% o blant 8-17 oed a 38% o rieni, a’r tro hwn mae’r ymgyrch angen eich help i gyrraedd hyn yn oed yn fwy o bobl!

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar thema wahanol bob blwyddyn sydd, yn ei hanfod, yn ceisio mynd i’r afael â materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar-lein. Eleni, mae’r ffocws ar y platfformau mae pobl ifanc yn eu defnyddio fel mannau i gysylltu, bod yn rhan o gymuned, a chydweithio. Mae’r ymgyrch yn ceisio dathlu’r cyfle sydd gan blant a phobl ifanc i siapio’r mannau hyn er gwell, a’u harfogi â’r sgiliau angenrheidiol i gadw eu hunain yn ddiogel wrth ddefnyddio’r platfformau hyn.

Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein

O chwarae gemau a sgwrsio, i ffrydio a gwylio fideo, mae’r rhyngrwyd wedi esblygu’n fan lle gallwn ryngweithio â phobl eraill drwy nifer gynyddol o gyfryngau gwahanol. I blant a phobl ifanc, mae’r platfformau hyn yn chwarae rhan bwysig a chadarnhaol o ran cynnig modd iddynt gymdeithasu â ffrindiau, a gallant hyd yn oed helpu datblygu sgiliau y gallant fynd â nhw o’r tu ôl i’r sgrin i’r byd go iawn.

Fodd bynnag, mae problemau’n dod i’r amlwg o ran diogelwch sy’n cael eu hadrodd yn y mannau hyn. Un broblem fawr a welwyd yw’r diffyg parch y mae unigolion yn dangos tuag at ei gilydd, gyda’r teimlad ei fod yn hawdd osgoi cosb am fod yn gas, am regi a bwlio. Fel rhan o’r ymgyrch hon, fe ddywedodd y bobl ifanc a gafodd eu cyfweld fod casineb yn cael ei gyfeirio at grwpiau penodol, yn enwedig defnyddwyr LHDT+, a bod casineb at fenywod yn gwneud i rai merched ifanc betruso rhag ymgysylltu’n llawn, ac felly elwa ar blatfformau gemau. Roedd y plant a gafodd eu cyfweld yn poeni bod diffyg canlyniadau ar gyfer ymddygiad negyddol yn y mannau hyn, a’u bod yn teimlo bod hyn am effeithio ar eu diogelwch a’u lles.

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 eisiau mynd i’r afael â’r materion hyn fel bod pob unigolyn ifanc yn gwybod beth yw ymddygiad parchus ar-lein, a pham y mae’n bwysig, ac yn gwybod beth i’w wneud pe baent yn dod ar draws bwlio neu gasineb ar-lein.

Beth i gymryd rhan ynddo yng Nghymru – cystadleuaeth ffilm Hwb

Yma yn Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn llawn cyffro i gefnogi cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel sy’n cael ei gynnal gan dîm Hwb Llywodraeth Cymru unwaith eto! Eleni, mae Hwb yn cynnal cystadleuaeth ffilm heb fod yn hirach na 2 funud i blant a phobl ifanc yn ymwneud â’r thema ‘Parcha fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau’. Mae cyfle i bob grŵp oedran gymryd rhan ac mae dau gategori yn y gystadleuaeth, sef un i blant oed ysgol gynradd ac un i blant ysgol uwchradd. Gall y ffilmiau ddilyn unrhyw fformat (animeiddiad, rhaglen ddogfen, digwyddiadau byw ac ati), a bydd y ffilmiau’n cael eu beirniadu o ran pa mor gryf yw’r neges a’r ffordd greadigol y cânt eu cyflwyno.

A… *sŵn drymiau, os gwelwch yn dda* gallwn ddatgelu y bydd Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol CDC, Michael O’Hara, yn bwrw golwg feirniadol dros y ceisiadau eleni! Llongyfarchiadau i Mike am gael ei ddewis i fod yn rhan o banel beirniaid cystadleuaeth ffilm Hwb eleni – rydym yn gobeithio y bydd y ceisiadau’n gryf ac y bydd yn ei chael hi’n anodd i ddewis yr enillwyr!

Ceir rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar wefan Hwb. Gwnewch yn siwr eich bod yn cyflwyno eich ceisiadau erbyn canol dydd, ddydd Mercher 12 Ionawr.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon bellach wedi gorffen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar Twitter yr Hwb am gyhoeddiadau enillwyr ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (8 Chwefror).

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae ‘UK Safer Internet Centre’ yn annog sefydliadau i gofrestru’n swyddogol eu cefnogaeth i’r ymgyrch eleni. Trwy gofrestru eich cefnogaeth, bydd eich ysgol neu sefydliad yn ymddangos fel pin unigryw ar fap cefnogwyr Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel! Am fwy o ysbrydoliaeth, gallwch weld sut mae sefydliadau eraill yn bwriadu cymryd rhan, er mwyn i chi allu lledaenu neges gadarnhaol yr ymgyrch yn well ymhlith eich rhwydwaith.

Lledaenwch y neges

Gallwch gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy:
• Fynd i www.saferinternetday.org.uk
• Dilyn @UK_SIC ar Twitter
• Ymuno â’r sgwrs genedlaethol drwy ddefnyddio #SaferInternetDay, #PlayYourPart, #SIDCymru a #DiwrnodDefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel
• Hoffi UK Safer Internet Centre ar Facebook
• Dilyn @DC_Wales ar Twitter, a Cymunedau Digidol Cymru ar Facebook
• Dilyn @UK_SIC ar Instagram